Mae Jayne Louise Ludlow (ganed 7 Ionawr 1979) yn hyfforddwr pêl-droed Cymreig ac yn cyn chwaraewr. Hi yw hyfforddwr Tîm Pêl-droed Merched Cymru.
Fel chwaraewr canol cae bu Ludlow yn chware i Arsenal am 13 mlynedd gan wasanaethu fel capten y tîm. Hi yw'r ferch sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau i Arsenal erioed.[3][4] Gwasanaethodd fel capten tîm merched Cymru hyd ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol yn 2012.
Bywyd cynnar
Ganwyd Ludlow yn Llwynypia yn ferch i Wynford Ludlow a Marilyn (née Reed) ei wraig. Bu Wynford yn chwaraewr pêl-droed gyda Tref Abertawe (cyn iddi ddyfod yn ddinas) a fu hefyd yn hyfforddi timau yng Nghynghrair Cymru.[5]
Derbyniodd Ludlow ei haddysg yn Ysgol Gyfun Treorci a Choleg y Brenin, Llundain.
Gyrfa clwb
Dechreuodd chware pêl-droed gyda thîm o fechgyn cyn gorfod rhoi'r gorau iddi wedi cyrraedd 12 mlwydd oed.[6] Cafodd gyrfa ieuenctid addawol yn y maes athletig gan dal y record Brydeinig i'r naid driphlyg o dan 17 a gan gynrychioli'r DU mewn cystadlaethau dan 20.[7] Bu hefyd yn cynrychioli Cymru yn chware pêl-rwyd a pêl-fasged.[6][8] Penderfynodd canolbwyntio ar bêl-droed gan chware i dîm merched y Bari.[6][9]
Enillodd Ludlow ysgoloriaeth i Brifysgol Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau, ond ymadawodd wedi ychydig fisoedd o'r cwrs gan nad oedd hi'n fodlon a safon y pêl-droed [6][9] Symudodd i Lundain a bu'n chware i dîm Millwall Lionesses a Southampton Saints wrth gwblhau gradd mewn ffisiotherapi yng Ngholeg y Brenin, Llundain.[9]
Wedi ymuno â thîm merched Arsenal yn 2000, sgoriodd Ludlow 28 gôl o ganol y cau wrth iddi gynorthwyo ei thîm i ennill trebl domestig yn ei thymor cyntaf. Cafodd ei henwi fel Chwaraewr y Flwyddyn enwebiad y chwaraewyr yn 2001 ac eto yn 2003 a 2004. Yn 2007 roedd Ludlow yn rhan allweddol o'r tîm a llwyddodd i ennill 4 teitl yn y tymor gan sgorio 24 gôl.[3][4][10] Yn nhoriad tymor 2005 dychwelodd i'r Unol Daleithiau i chware i New York Magic.[2]
Gwasanaethodd fel is-gapten ac wedyn capten tîm Arsenal.[3][4]
Yn ystod buddugoliaeth 1-0 Arsenal's dros Everton ym mis Ebrill 2010, derbyniodd Ludlow cerdyn coch am "ffrwydrad ymosodgar" tuag at ei wrthwynebydd Fara Williams.[11] O herwydd hyn cafodd Ludlow ei gwahardd rhag bod yn gapten ar ei Thîm ar gyfer ffeinal Cwpan FA y merched 2010 FA lle cafodd Arsenal eu trechu gan Everton.
Ym mis Gorffennaf 2013 wedi cyfres o anafiadau cyhoeddodd Ludlow ei ymddeoliad fel chwaraewr gan ddweud ei bod am ganolbwyntio ar ei rhôl fel hyfforddwr Academi Arsenal a Chymru.
Yn ystod ei chyfnod yn chware i'r clwb enillodd Arsenal a Ludlow naw pencampwriaeth y gynghrair chwe Cwpan FA a Chwpan Merched UEFA Mae'n parhau i ddal y record am y nifer o goliau a sgoriwyd dros dîm Merched Arsenal.[12][13]
Mis ar ôl ymddeol derbyniodd swydd fel rheolwr a chyfarwyddwr tîm merched Reading a oedd newydd fod yn llwyddiannus yn eu cais i ymuno ag ail reng Oruwch Gynghrair y Merched.[14]
Gyrfa ryngwladol
Enillodd Ludlow ei chap cyntaf dros Gymru yn 17 mlwydd oed mewn gêm yn erbyn Gweriniaeth yr Iwerddon ym mis Chwefror 1996.[15][16]
Ym mis Tachwedd 2010 enillodd Ludlow ei 50fed cap dros ei gwlad wedi dychwelyd i'r tîm ar ôl absenoldeb a achoswyd gan anghydweld efo'r rheolwr Adrian Tucker parthed cyfeiriad gêm y merched yng Nghymru.[17] Sgoriodd ei 18fed gôl dros ei gwlad gan drechu tîm Bwlgaria 8-1[18]
Chwaraeodd ei gêm ryngwladol olaf yn 2012.
Yn 2014 cyhoeddodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru eu bod am benodi Ludlow fel rheolwr Merched Cymru wedi ymadawiad Jarmo Matikainen [19]
Cyfeiriadau