Ffisiotherapi

Ysgythriad pren o ddyfais Hypocrataidd yn ail-osod esgyrn yr ysgwydd.

Rhan o ddarpariaeth gofal iechyd yw ffisiotherapi, sef gwasanaeth a ddarperir i gleifion i ddatblygu, gofalu ac atgyfnerthu symudiad o fewn eu cyrff. Digwydd hyn nid yn unig i bobol sy'n brifo mewn chwaraeon, eithr mae ffisiotherapi hefyd yn berthnasol ar gyfer yr hen neu bobl sy'n dioddef o rai mathau o glefydau.

Rhan o feddygaeth ydyw ffisiotherapi, ac mae'r therapydd yn dysgu ac yn ymarfer ei grefft dros nifer o flynyddoedd mewn coleg. Mae'n cydweithio gydag eraill yn y byd meddygol, gan gynnwys y meddyg, y gweithiwr cymdeithasol, y seicolegydd a thechnegwyr ysbyty.

Gall y driniaeth arferol gynnwys hanes y claf, archwilio'r claf er mwyn dod i ganlyniad (sef y diagnosis), ymgorffori unrhyw ganfyddiadau clinigol (megis llun pelydr-X) ac yna creu cynllun, neu'r driniaeth a fwriedir.

Gall y therapydd ymarfer mewn llefydd eitha amrywiol, llefydd megis clinigau, swyddfeydd, adeiladau gofal, tai arferol, ysgolion a cholegau, yr hospis, gweithleoedd diwydiannol, canolfannau ffitrwydd a chanolfanau chwaraeon.

Mae'r cymwysterau angenrheidiol yn amrywio o wlad i wlad. Mewn rhai gwledydd, mae angen gradd pellach i gymhwyso fel therapydd ffisiotherapi.