Awdur a newyddiadurwr o'r Unol Daleithiau oedd James Mallahan Cain (1 Gorffennaf 1892 – 27 Hydref 1977). Mae'n enwocaf am ei nofelau roman noir, yn bennaf The Postman Always Rings Twice a Double Indemnity.
Cyhoeddwyd nofel olaf Cain, The Cocktail Waitress, ym Medi 2012 gan y cyhoeddwr Hard Case Crime, a dreuliodd naw mlynedd yn dod o hyd i'r llawysgrif ac yn ennill hawliau cyhoeddi. Mae'r nofel yn dweud stori Joan Medford, gweddw ifanc sy'n gweithio mewn lolfa goctel.[1]
Llyfryddiaeth
- Our Government (1930)
- The Postman Always Rings Twice (1934)
- Serenade (1937)
- Mildred Pierce (1941)
- Love's Lovely Counterfeit (1942)
- Career in C Major and Other Stories (1943)
- Double Indemnity (1943) (cyhoeddwyd yn gyntaf yn Liberty Magazine ym 1936)
- The Embezzler (1944) (cyhoeddwyd yn gyntaf yn Liberty Magazine dan y teitl Money and the Woman ym 1938)
- Past All Dishonor (1946)
- The Butterfly (1947)
- The Moth (1948)
- Sinful Woman (1948)
- Jealous Woman (1950)
- The Root of His Evil (1951) (cyhoeddwyd hefyd dan y teitl Shameless)
- Galatea (1953)
- Mignon (1962)
- The Magician's Wife (1965)
- Rainbow's End (1975)
- The Institute (1976)
- The Baby in the Icebox (1981); straeon byrion
- Cloud Nine (1984)
- The Enchanted Isle (1985)
- The Cocktail Waitress (2012)
Cyfeiriadau