Economegydd o Americanwr oedd James McGill Buchanan, Jr. (3 Hydref 1919 – 9 Ionawr 2013) a enillodd y Wobr Nobel am Economeg ym 1986.[1] Roedd ei waith yn arloesol ym maes damcaniaeth dewis cyhoeddus, sy'n ystyried penderfyniadau llywodraethol trwy ddiddordebau'r biwrocratiaid a gwleidyddion sy'n gwneud y penderfyniadau hynny.[2]