Jacob Ifan

Jacob Ifan
GanwydJacob Ifan Prytherch Edit this on Wikidata
1993 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
PerthnasauTom Rhys Harries Edit this on Wikidata

Actor o Gymro yw Jacob Ifan (ganwyd yn 1993).[1][2] sy'n adnabyddus am ei brif ran yn chwarae Jake Vickers yng nghyfres ddrama heddlu'r BBC, Cuffs a phrif ran yn nrama Gymraeg Bang ar S4C.[3][4]

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd Jacob Ifan Prytherch yng Nghaerdydd ac roedd byw yn Nhreganna cyn i'r teulu symud i Aberystwyth pan oedd yn naw mlwydd oed.[5] Roedd ei rieni Esther Prytherch a Rhodri Edwards yn dod o Aberystwyth yn wreiddiol. Bu'r teulu hefyd yn byw yn Y Borth a Llanfihangel y Creuddyn. Mae gan Jacob frawd hŷn, Harri, a chwaer iau, Hanna.[6] Aeth i Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Penweddig.[7] Mae'n gefnder i'r actor Tom Rhys Harries[8].

Roedd yn frwdfrydig am ffilmiau pan oedd e'n tyfu i fyny ac am fod yn rhan o'r byd hwnnw. Aeth i glwb drama Arad Goch yn blentyn ac wrth fynd yn hŷn roedd yn manteisio mwy ar gyfleoedd actio ac yn cymryd y peth fwy o ddifri. Ymunodd â theatr ieuenctid yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a cheisiodd am le yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Graddiodd Jacob o'r coleg yn 2015, ar ôl dechrau ffilmio Cuffs.[9][10]

Ffilmyddiaeth

Teledu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2015–2016 Cuffs[11] PC Jake Vickers
2016 Y Gwyll Trystan Meilir Cyfres 3, Pennod 1
2017 Bang Sam

Ffilm

Blwyddyn Teitl Rhan
2016 Music, War and Love[12] David Rosenwald

Cyfeiriadau

  1. "Jacob Ifan Prytherch's Page". community.nationaltheatrewales.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-20. Cyrchwyd 2015-11-19.
  2. "Why Cuffs star Jacob Ifan is one to watch". RadioTimes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-19. Cyrchwyd 2015-11-18.
  3. "The Version Interview... Jacob Ifan on new BBC drama, Cuffs". The Version. 23 October 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-19. Cyrchwyd 2015-11-19.
  4. "Cuffs – meet the cast". RadioTimes. Cyrchwyd 2015-11-18.
  5. William, Kathryn. New drama Cuffs introduces the sexiest copper on the box... and he just happens to be Welsh (en) , WalesOnline, 27 Hydref 2015. Cyrchwyd ar 14 Chwefror 2016.
  6. Yr ifanc a ŵyr? , BBC Cymru Fyw, 9 Medi 2017.
  7. Aber actor Jacob praises arts centre ahead of his new TV premiere (en) , Cambrian News, 28 Hydref 2015. Cyrchwyd ar 14 Chwefror 2016.
  8. Yr ifanc a ŵyr? Esther Prytherch a Jacob Ifan , BBC Cymru Fyw, 8 Medi 2017. Cyrchwyd ar 2 Mehefin 2022.
  9. "Jacob Ifan - Actors 2015 - Royal Welsh College of Music & Drama". rwcmd.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd 2015-11-19.
  10. "Cuffs is an exciting new BBC police drama set in Brighton". Western Morning News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-25. Cyrchwyd 2015-11-19.
  11. "The Apprentice and Cuffs review by CHRISTOPHER STEVENS". Mail Online. 29 October 2015. Cyrchwyd 2015-11-19.
  12. "Jacob Ifan - Hamilton Hodell - CV". www.hamiltonhodell.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-19. Cyrchwyd 2015-11-19.

Dolenni allanol