Jack Kerouac |
---|
|
Ganwyd | Jean-Louis Lebris de Kérouac 12 Mawrth 1922 Lowell |
---|
Bu farw | 21 Hydref 1969 St. Petersburg |
---|
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | llenor, bardd, nofelydd, sgriptiwr, rhyddieithwr |
---|
Adnabyddus am | On the Road, The Dharma Bums, Big Sur, Desolation Angels, The Subterraneans |
---|
Prif ddylanwad | Honoré de Balzac, Louis-Ferdinand Céline, Neal Cassady, William S. Burroughs, Thérèse o Lisieux |
---|
Mudiad | Cenhedlaeth y Bitniciaid |
---|
Tad | Léo Alcide Kerouac |
---|
Mam | Gabrielle Ange Lévesque |
---|
Priod | Joan Kerouac, Edie Parker, Stella Sampas |
---|
Gwefan | https://jackkerouac.com |
---|
Tîm/au | Columbia Lions football |
---|
llofnod |
---|
|
Awdur, bardd a darlunydd Americanaidd oedd Jack Kerouac (ynganer /ˈkɛruːæk, ˈkɛrəwæk/; 12 Mawrth 1922 – 21 Hydref 1969). Ynghyd â William S. Burroughs ac Allen Ginsberg, caiff ei ystyried fel un o arloeswyr Cenhedlaeth y Bitniciaid.
Roedd gweithiau Kerouac yn hynod boblogaidd, ond ychydig iawn o gydnabyddiaeth a dderbyniodd tra'r oedd yn fyw. Erbyn heddiw, caiff ei ystyried yn ysgrifennwr pwysig a dylanwadol a ysbrydolodd ysgrifenwyr eraill, yn cynnwys Hunter S. Thompson, Tom Robbins, Lester Bangs, Richard Brautigan, Ken Kesey, Haruki Murakami a Tom Waits.
Mae Kerouac yn fwyaf adnabyddus am ei lyfrau On the Road, The Dharma Bums, Big Sur, The Subterraneans, a Visions of Cody.