Gwleidydd o Gymru yw Iwan Huws. Mae'n aelod o Blaid Cymru ac ef oedd ymgeisydd y blaid ar gyfer Etholaeth Aberconwy yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011. Cymerodd le'r Aelod Cynulliad Gareth Jones, ond collodd Plaid Cymru'r sedd i'r ymgeisydd Ceidwadol Janet Finch Saunders, a oedd â mwyafrif o 1,567.[1][2]
Bu gynt yn brif-weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri a chyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol