István Sándorfi

István Sándorfi
Arwyddo llyfrau ym Mwdapest yn 2006.
Ganwyd12 Mehefin 1948 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 2007 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Mudiadhyperrealism Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.fosaw.com/home.htm Edit this on Wikidata

Arlunydd oedd István Sándorfi (Étienne Sandorfi - Budapest, Hwngari, 12 Mehefin 1948 - Paris, Ffrainc Rhagfyr 26 2007) wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn Ffrainc ble yr adnabyddir ef fel Étienne Sandorfi.

Bywgraffiad

Bywyd Cynnar

Gweithiodd ei dad i gwmni mawr Americanaidd (IBM), ac ohewrydd hyn fe’i carcharwyd am bum mlynedd ym 1950 wedi ei gyhuddo o ysbïo, cyn cael ei ryddhau ychydig ddyddiau cyn y Chwyldro Hwngaraidd ym 1956.[1][2] Ym 1956, pan oedd yn 8 mlwydd oed, symudodd gyda’i deulu yn gyntaf i Awstria ac yn hwyrach yn yr Almaen cyn symud i Ffrainc ym 1958 lle y bu'n byw tan ei farwolaeth. Ar ôl dechrau arlunio yn 8 mlwydd oed a pheintio âg olew yn 12, graddiodd gyda diploma o’r École nationale supérieure des Beaux-Arts ym Mharis ac fe astudiodd hefyd yn yr École nationale supérieure des arts décoratifs.

Ganwyd dwy ferch iddo, Ange (ganwyd ym 1974) ac Eve (ganwyd ym 1979).[2]

Wedi salwch sydyn, bu farw mewn ysbyty ym Mharis ar y 26ain o Rhagfyr 2007. Cafwyd gwasaneth goffa iddo ym Mharis ar Ionawr 2il 2008, ac yna, yn ôl ei ewyllys fe aethpwyd â’i lwch i Hwngari ac mae nawr yn gorffwys ym mynwent Kispest, yn ardal 19 Budapest.[3]

Celfyddyd a Gweithiau

Dechreuodd ei yrfa yn ei blentyndod. Yn ei weithiau cynnar ym 1956, ymddangosodd y lluniau o olygfeydd o ffenest ei dŷ yn Kispest mor chwyldroadol ac mor berffaith fel y cuddiwyd hwynt gan ei fam.[1] Yn ystod y saithdegau dechreuodd ddefnyddio ei hunan fel model gan nad oedd yn hoff o bresenoldeb pobl eraill tra roedd yn gweithio. Ymwahanodd ei hunan nid dim ond o’r rheini o’i cwmpas ond o olau naturiol hefyd.

Cynhaliwyd ei arddangosfa gyntaf, mewn galeri bychan ym Mharis pan oedd yn 17 mlwydd oed. Yna, ym 1973 cynhaliwyd ei arddangosfa bwysig gyntaf yn Amgueddfa Gelf Modern Paris.[2] Ers hynny cafwyd arddangosfeydd o’u weithiau mewn orielau yn Rhufain, Copenhagen, Paris, München, Basel, Brwsel, Efrog Newydd, San Fransisco a Los Angeles.

Yn ei gyfnod cyntaf, yn lle portreadau, arluniodd nifer o wrthrychau mewn safleodd cymhleth. Creodd argraff mawr ar y cyhoedd er enghraifft gyda’i llun difywyd o berfeddion.[1]

Ar ddiwedd y 1970au ac yn ystod y 1980au cynnar daeth ei gyfnod lelog a glas a’u cyfuniadau oeraidd. Yn ystod y1980au arluniodd rhannau o goes a braich a lluniau bywyd llonydd o ffurfiau benywaidd wedi eu seilio ar ffotograffau.[1] Ers 1988 arluniodd ffurfiau o fenywod yn unig gan ddefnyddio eu merched eu hunan yn aml i fodeli. Yn ôl ei arferiad, ynghŷd â chyrff benywaidd wedi eu gorchuddio â chynfas gellir dod o hyd i wrthrychau rhyfedd. Yn aml mae ei arluniau bywyd llonydd yn portreadu poteli a ffrwythau (afalau, orennau, eirin gwlanog a gellyg). Roedd cefndir eu luniau fel rheol oedd wal syml gwyn, er y lluniodd y craciau arnynt yn orfanwl hefyd.

Cynhaliwyd ei harddangosfa gyntaf i ymwneud â Hwnagri yn 2001. Trefnwyd yr arddangsofa yn yr Athrofa Hwngaraidd ym Mharis gan Kálmán Makláry [2] a drefnodd ei arddangosfeydd Hwnagraidd dilynol. Agorodd ei arddangosfa gyntaf yn Hwnagari yn 2006 gyda 15 o’i luniau mewn arddangsofa yn Oriel Erdész y Makláry Fine Art Budapest yn unión 50 mlynedd ar ôl iddo adael y wlad. O Ebrill y 13eg tan Mehefin y 3ydd 2007 cynhaliwyd arddangosfa casglwyr yn Debrecen, ble roedd yn bosib i weld saithdeg o’i weithiau yn yr Amgueddfa Gelf Fodern a Chyfoes.

Mae tyndra cryf yn bodoli yn Hwngariaid tuag at ffasiwn diwylliannol yr oeddynt wedi eu gwahardd ohono am ddegawadau. Dilynodd arddangosfa ar ôl arddangosfa a cheisiodd ymddangos yn arloesol, technolegol, un lliw. Gobeithiant efelychu gorfoledd celfyddyd cyfalafiaeth a oedd yn y gorllewin yn cynrychiolu diwylliant artiffisial hynafol. Nid dim ond gelyn mwyaf celfyddyd yw ffasiwn, ond waeth o lawer yw’r ffasiwn honno sydd bellach allan o ffasiwn : yn yr un ffordd mae’n gwneud syniadau sydd gan swyddogion am gelf mor afresymol.

Arddangosfeydd

  • 1966 - Galerie des Jeunes, Paris • Galerie de la Barbière, Le Barroux
  • 1970 - Galerie 3+2, Paris
  • 1973 - Musée d'Art Moderne de la Ville de Paris
  • 1974 - Galerie Daniel Gervis, Paris
  • 1975 - Galerie Beaubourg, Paris
  • 1976 - Bucholz Galerie, München
  • 1977, 1980 - Galerie Isy Brachot, Brwsel
  • 1978, 1981, 1983 - Galerie Isy Brachot, Paris
  • 1979 - FIAC, Galerie Isy Brachot, Paris
  • 1981 - Galerie Isy Brachot, Basel
  • 1982 - Amaury Taitinger Gallery, Efrog Newydd
  • 1984 - FIAC, Galerie Isy Brachot, Paris
  • 1986 - Galerie Lavignes-Bastille, Paris - Galerie de Bellecour, Lyon
  • 1987 - Lavignes-Bastille Gallery, Los Angeles - Hôtel de Ville, Nancy
  • 1988 - Armory Show '88, Lavignes-Bastille Gallery, Efrog Newydd - Abbaye des Cordeliers, Châteauroux (retrospektív) - Louis K. Meisel Gallery, Efrog Newydd - FIAC, Galerie Lavignes-Bastille, Paris
  • 1991 - Galerie Prazan-Fitussi, Paris
  • 1993 - Galerie Guénéguaud, Paris - Galerie Mann, Paris
  • 1994, 1997 - Jane Kahan Gallery, Efrog Newydd
  • 1999 - Galerie Tempera, Brwsel
  • 1999-2000 - Gallerihuset, Copenhagen
  • 2006 - Erdész-Maklári Galéria, Budapest
  • 2007 - A test színeváltozása. Életműkiállítás, MODEM, Debrecen.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol