- Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Ipswich (gwahaniaethu).
Tref yn Suffolk, Dwyrain Lloegr, yw Ipswich.[1] Mae ardal adeiledig y dref fwy neu lai yn cyd-fynd â maint Bwrdeistref Ipswich. Fe'i lleolir ar aber Afon Orwell. Mae'n borthladd o bwys.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Ipswich boblogaeth o 144,957.[2]
Mae Ipswich yn ganolfan weinyddol i swydd Suffolk.
Ganwyd y Cardinal Thomas Wolsey yn Ipswich tua'r flwyddyn 1475.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau