Mae hanes Iddewon ac Iddewiaeth yng Nghymru yn cychwyn yn ail hanner y 13g. Ond yn 1290 cyhoeddodd Edward I, brenin Lloegr, ddatganiad yn gorfodi'r Iddewon i adael teyrnas Lloegr. Wedi hynny, ac eithrio un cyfeiriad o'r 14g, mae'n ymddangos na fu Iddewon yng Nghymru hyd at y 18g. Dim ond yn y 19g y gellir sôn am gymunedau sylweddol o Iddewon yng Nghymru. Erbyn heddiw ceir cymunedau neu synagogau mewn 27 o drefi, gyda'r mwyafrif ohonynt yn y de-ddwyrain.
Cymunedau cynnar
Mae'r Iddewon yng Nghymru yn rhan o diaspora Iddewig fyd-eang a elwir yn Hebraeg, y "Galut". Ceir cofnodion am Iddewon yng Nghaerllion, Cas-gwent a'r Fenni yn y 1270au a'r 1280au. Er i Edward I wahardd Iddewon o Loegr yn 1290, ceir cyfeiriad eithriadol at Iddew dienw yn byw yng nghwmwdMaenor Deilo yn 1386/7.[1]
Wedi hynny, ceir y dystiolaeth gynharaf am Iddewiaeth mewn cofnod am gymuned Iddewig fechan yn Abertawe tua 1730. Yn y ganrif olynol ffurfiwyd cymunedau Iddewig mewn rhannau eraill o dde Cymru, e.e. Caerdydd, Merthyr Tudful, Pontypridd a Tredegar."[2]
Cyfnod diweddar
Gyda thwf cyffredinol mewnfudo Iddewon i wledydd Prydain yn y 19g, sefydlwyd cymunedau Iddewig mewn sawl rhan o Gymru. Atgyfnerthwyd cymunedau oedd yn bodoli eisoes a sefydlwyd rhai newydd yn yr ardaloedd diwydiannol yn bennaf. Roedd hyn yn rhan o batrwm o bobl yn dod i mewn i Gymru o wledydd fel Iwerddon, Lloegr a'r Eidal i weithio. Erbyn diwedd y ganrif roedd cymunedau bychain o Iddewon, masnachwyr a pherchnogion siopau gan amlaf, i'w cael yn y rhan fwyaf o gymoedd y De.[3]
Erlid Iddewon Tredegar
Fel rheol, dangoswyd lefel cymeradwy o oddefgarwch tuag at y cymunedau Iddewig newydd hynny. Ond ceir un eithriad. Yn ardal Tredegar a threfi eraill yn y cylch, dangosodd gwrth-Semitiaeth ei ben ar 19 Awst1911, pan ymosodwyd ar siopau Iddewig gan dyrfaoedd o weithwyr (tua 200 ohonyn nhw), rhai ohonynt yn canu emynau Cristnogol, gan wneud rhwng £12,000 a £16,000 o ddifrod. Torrwyd ffenestri siopai Iddewig a dwyn ohonyn nhw, gyda'r heddlu'n sefyll yn ôl yn ddiymadferth. Dyddiau'n ddiweddarach roedd y trais wedi ymledu i Gwm Rhymni a Glyn Ebwy, Brynmawr, Bargoed a Senghennydd. Nid oedd sôn am Iddewon yn y Cymoedd wedi hyn.[4][5]
Davies, Grahame (ed.). The Chosen People: Wales and the Jews (Seren, 2002) ISBN 978-1854113092
'The Jewish Communities of South Wales', yn Shemot 1994 vol. 2/3
U. Q. Henriques, 'The Jews of South Wales' yn Historical Studies (1993)
G. Alderman, 'The Jew as Scapegoat? The Settlement and Reception of Jews in South Wales before 1914', yn Transactions JHSE XXVI, 1977.
C. Bermant, Troubled Eden - An Anatomy of British Jewry (Vallentine Mitchell, Llundain, 1969), tt. 59-61.
Association of Jewish Ex-Servicemen & Women (AJEX) consecration and unveiling of War Memorial 1939-1945 at Cathedral Road Synagogue (JGSGB)
'The Jewish of Merthyr Tydfil', Shemot, Medi 1998, cyf. 6/3
'A vanished Community - Merthyr Tydfil 1830-1998', Shemot 2001 cyf. 9/3
Leonard Mars, 'Celebrating diverse identities, person, work and place in South Wales', yn Identity and Affect: Experiences in a Globalising World, Campbell, J.R. a Rew, A., 1999, tt. 251-274 (Hanes meddyg o Iddew yn Abertawe)
Leonard Mars, 'Cooperation and Conflict between Veteran and Immigrant Jews in Swansea', yn Religion and Power Decline and Growth: Sociological analyses of religion in Britain, Poland and the Americas, 1991, gan Peter Gee a John Fulton, tt. 115-130
James, E. Wyn, ‘ “A’r Byd i Gyd yn Bapur . . .’ Rhan 3: Dylanwadau Rhyngwladol – Sansgrit a Hebraeg’, Canu Gwerin, 27 (2004), 34-47 ISSN 0967-0599.