Hywel Harries |
---|
Ganwyd | 7 Hydref 1921 |
---|
Bu farw | 26 Tachwedd 1990 Ysbyty Treforus, Abertawe |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | arlunydd |
---|
Roedd Hywel Harries (7 Hydref 1921 – 26 Tachwedd 1990) yn artist ac yn athro celf. Aeth i ysgol gelf Llanelli[1] cyn ymuno â'r Awyrlu Brenhinol ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.[2] Astudiodd yng Ngholeg Technegol Caerdydd.
Yn 1948, priododd Caroline Thomas.[3] Bu'n athro yn Ysgol Machynlleth, Ysgol Ramadeg Ardwyn ac Ysgol Penglais, Aberystwyth. Yn 1963, ffurfiodd Harries Gymdeithas Gelf Ceredigion ynghyd â Ogwyn Davies a Beti Richards.
Roedd Harries wrth ei bodd yn cyfrannu darluniau a chloriau i gylchgronnau'r Urdd,[4] a'r Cambrian News.[5]
Cyhoeddodd Cymru'r Cynfas yn 1983.
Cyfeiriadau