Cyn-newyddiadurwr a chyflwynydd newyddion o Gymro yw Huw Edwards (ganwyd 18 Awst 1961).[1]
Bu'n cyflwyno nifer o brif raglenni newyddion ar rwydwaith Prydeinig y BBC yn ogystal a rhaglenni newyddion arbennig ar ddigwyddiadau gwladol a rhyngwladol. Ef oedd prif gyflwynydd Newyddion y BBC am ddeg o'r gloch rhwng 2003 a 2023. Mae hefyd wedi cyflwyno nifer o raglenni teledu a radio yng Nghymru - yn Gymraeg a Saesneg. Cyflwynodd sawl cyfres i BBC Cymru gan gynnwys The Story of Wales, The Wales Report, a'r rhaglen drafod materion cyfoes, The Exchange. Bu hefyd yn cyflwyno rhai o raglenni Bore Sul i BBC Radio Cymru.
Cyflwynodd nifer o raglenni ar S4C gan gynnwys Pawb a'i Farn a Dechrau Canu Dechrau Canmol. Yn 2021, i nodi ei ben-blwydd yn 60, darlledwyd rhaglen ddogfen arbennig amdano ar S4C.[2]
Ar 8 Medi 2022, cyhoeddodd Edwards farwolaeth Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig, gan gyflwyno darllediadau newyddion treigl yn dilyn cyhoeddiad gan Balas Buckingham yn gynharach yn y dydd.[3] Cyflwynodd ddarllediadau'r BBC o angladd y Frenhines ar 19 Medi hefyd.[4]
Daeth ei yrfa i ben ar ddiwedd Gorffennaf 2024 wedi iddo bledio’n euog i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant.[5]
Bywyd cynnar ac addysg
Fe'i ganwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn fab i Hywel Teifi Edwards, yr hanesydd a llenor Cymraeg, a'i wraig, yr athrawes Aerona Protheroe.[6] Fe'i magwyd yn Llangennech, ger Llanelli, ac fe'i addysgwyg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli. Graddiodd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd yn 1983.
Ar ôl ei radd cyntaf, cychwynodd waith ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ar Ffrangeg y canol oesoedd, cyn dod yn ohebydd ar gyfer orsaf radio lleol Swansea Sound ac yna ymuno a'r BBC.[7]
Bywyd personol
Mae Edwards yn briod a Vicky Flind, cynhyrchydd teledu, sydd wedi gweithio fel golygydd ar This Week a Peston.[8][9] Mae'r cwpl yn byw yn Dulwich, Llundain,[8] ac mae ganddynt bump o blant.[10] Mae Edwards yn Gristion ac yn mynychu'r eglwys yn wythnosol.[11] Roedd wedi sôn ei fod wedi dioddef pyliau o iselder ers 2002.[12]
Anrhydeddau
Derbyniodd Edwards nifer o anrhydeddau yn ystod ei yrfa ond collodd nifer o rhain wedi iddo bledio'n euog am droseddau difrifol.[13] Cafodd ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe a'r Coleg Cerdd a Drama ei dynnu yn ôl. Yn ogystal fe ymddiswyddodd o'i rôl fel Athro Er Anrhydedd a'i Gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.[14]
Fe'i urddwyd i'r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2022 gyda'r enw barddol 'Huw Elli'.[15] Yn Awst 2024, penderfynodd Llys yr Eisteddfod ei ddiarddel o'r Orsedd, y tro cyntaf i'r Llys gymryd y cam hynny.[16]
Achosion cyfreithiol
Honiadau am ei fywyd preifat
Ar 7 Gorffennaf 2023 cyhoeddwyd stori ym mhapur newydd The Sun yn cynnwys honiadau o dalu £35,000 i berson ifanc am luniau o natur rywiol. Gwnaed yr honiad gan fam a llysdad y person ifanc, er y cafwyd datganiad wedyn gan y person dan sylw yn dweud fod y stori yn "rwtsh". Cafwyd straeon pellach yn y papur newydd am ei fywyd preifat. Ni gyhoeddwyd ei enw ar y pryd ond cyfeiriwyd at un 'brif gyflwynwyr y BBC' a oedd yn ennill cyflog 6 ffigwr.[17] Y diwrnod wedyn cyhoeddodd y BBC y byddai ymchwiliad i'r mater ac fe ataliwyd y cyflwynydd o'i waith ar 9 Gorffennaf. Yn ogystal pasiwyd manylion yr honiadau i Heddlu'r Met ar 10 Gorffennaf.
Ar 12 Gorffennaf cyhoeddodd yr heddlu eu bod wedi cyflawni eu hasesiad ac na fydd camau pellach yn cael eu cymryd. Daeth i'r amlwg hefyd bod Heddlu De Cymru wedi ymchwilio i honiad a wnaed yn Ebrill 2023 ac ni ganfuwyd unrhyw dystiolaeth o dorcyfraith y pryd hynny chwaith.[18] Yr un diwrnod, ar raglen newyddion 6 y BBC, cyhoeddwyd ei enw am y tro cyntaf yn gyhoeddus, ac adroddwyd fod Edwards wedi ymddiswyddo. Cywirwyd hyn o fewn munudau i ddweud nad oedd wedi ymddiswyddo. Darllenwyd datganiad gan ei wraig Vicky, yn dweud ei fod yn cael "triniaeth am iselder yn yr ysbyty, ble bydd yn aros am y dyfodol rhagweladwy."
Ar 22 Ebrill 2024, cyhoeddwyd y bod Edwards wedi gadael y BBC "ar sail cyngor meddygol".[19]
Troseddau
Fe'i arestiwyd ar 8 Tachwedd 2023 fel rhan o ymchwiliad gan yr heddlu, er nid oedd hyn yn gyhoeddus ar y pryd. Fe'i gyhuddwyd ar 26 Mehefin 2024. Ar 31 Gorffennaf 2024, ymddangos yn Llys Ynadon Westminster, a plediodd Edwards yn euog i greu delweddau anweddus o blant.[20]
Ar ôl y sgandal, gwnaeth y BBC gofyn i Edwards i ddychwelyd dros £200,000 a gafodd ei dalu iddo ar ôl cael ei arestio.[21] Cafodd hefyd ei ddiarddel o Orsedd Cymru gan Lys yr Eisteddfod.[22]
Ar 16 Medi 2024, cafodd Edwards ddedfryd o garchar wedi'i gohirio am chwe mis, gan Llys Ynadon San Steffan.[23]
Cyfeiriadau