Mynyddoedd yng ngogledd-ddwyrain Affganistan a gogledd Pacistan yw'r Hindu Kush[1] (Perseg: هندوکش, Hindi: हिन्दु कुश). Yn ôl y daearyddwr Arabaidd Ibn Battuta (1304-1368) yn ei lyfr Teithiau yn Asia, ystyr yr enw yw "lladdwr yr Hindwaid"; pan fyddai caethweision yn cael eu dwyn o India, byddai llawer ohonynt yn marw wrth groesi'r mynyddoedd hyn. Yn ogystal â rhannau gogledd-ddwyreiniol Affganistan, mae'r Hindu Kush yn cynnwys rhan o Khyber-Pakhtunkhwa a Gilgit–Baltistan dros y ffin ym Mhacistan. Yn ddaearegol, mae'n cyfrif fel estyniad mwyaf gorllewinol mynyddoedd Pamir, cadwyn Karakoram, a'r Himalaya.
Copaon
Y copaon uchaf yw:
Cyfeiriadau
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 96.