Gwleidydd o'r Unol Daleithiau yw Hillary Diane Rodham Clinton (ganed 26 Hydref 1947), hefyd gwraig Arlywydd Bill Clinton; a bu'n Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau yn ystod arlywyddiaeth ei gŵr (1993 - 2001) Hi oedd 67ain Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau o 2009 hyd 2013 a Seneddwr o Efrog Newydd o 2001 hyd 2009. Roedd hi'n un o ymgeiswyr arlywyddol y Blaid Ddemocrataidd yn 2008 ond enillodd Barack Obama yr enwebiad. Collodd hefyd yn Etholiad 2016, pan gipiodd Donald Trump yr arlywyddiaeth.
Personol
Fe'i ganed yn Chicago a'i magu ym mwrdeistref Park Ridge, Illinois, ble astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Wellesley, gan raddio yn 1969. Derbyniodd radd arall yn Ysgol y Gyfraith, yng Ngholeg Iâl yn 1973. Bu'n gwnsel am ychydig cyn priodi Bill Clinton yn 1975. Roedd ei thad, Hugh Ellsworth Rodham (1911–1993) o dras Gymreig a Seisnig[1] a weithiai fel rheolwr yn y diwydiant tecstilau, a'i mam Dorothy Howell Rodham (1919–2011), o dras Albanaidd, Cymreig, Seisnig, Canadaidd ac Iseldiraidd.[1][3]
Ymgeisydd am Arlywyddiaeth 2016
Yng Ngorffennaf 2016 fe'i henwebwyd gan y Blaid Ddemocrataidd fel eu ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth yn Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016, y fenyw gyntaf i'w enwebu gan unrhyw brif blaid yn yr U.D.A. Cododd sawl honiad o dwyll a cham-weithredu yn ei herbyn, nid yn unig gan ei gwrthwynebydd Donald Trump yn y ras am yr Arlywyddiaeth, ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad - gan yr FBI. Roedd y prif honiadau'n ymwneud â nifer o ebyst a oedd wedi'u dileu. Trump a orfu, yn groes i'r polau piniwn.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol