Henry Lewis |
---|
Ganwyd | 21 Awst 1889 Abertawe |
---|
Bu farw | 14 Ionawr 1968 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | person dysgedig, academydd |
---|
Cyflogwr | |
---|
Gwobr/au | CBE |
---|
Ysgolhaig Cymreig oedd Henry Lewis (21 Awst 1889 – 14 Ionawr 1968).
Ganed ef yn Ynystawe yn yr hen Sir Forgannwg. Graddiodd mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen, lle bu'n astudio dan Syr John Rhys. Bu'n athro ysgol yn Ystalyfera a Llanelli, yna yn y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Wedi'r rhyfel, daeth yn is-ddarlithydd yn adran y Gymraeg yng Nghaerdydd, cyn cael cadair y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Abertawe yn 1921, swydd a ddaliodd hyd ei ymddeoliad yn 1954.
Bu'n olygydd Cyfres y Brifysgol a'r Werin am gyfnod, a chyfieithodd Brenin yr Ellyllon gan Gogol i'r gyfres.
Cyhoeddiadau
- Llawlyfr Llydaweg Canol (1922)
- (gol.) Chwedleu Seith Doethon Rufein (1925)
- (gol.) Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (1925)
- Llawlyfr Cernyweg Canol (1928)
- Mynegai i farddoniaeth y llawysgrifau (1928, gyda Elizabeth J. Louis Jones)
- (gol.) Delw y Byd (1928, gyda Pol Diverres)
- Datblygiad yr iaith Gymraeg (1931)
- (gol.) Hen Gerddi Crefyddol (1931)
- A Concise Comparative Celtic Grammar (1937, cyfieithiad o Vergleichende Grammatik der Keltischen Sprachen gan Holgar Pedersen
- (gol.) Brut Dingestow (1942)
- The Sentence in Welsh (1942)
- (gol.) Hen gyflwynadau (1948)
- Morgannwg Matthews Ewenni (1953)
- (gol) argraffiad cyntaf cwmni Collins o'r Spurrell Welsh / English Dictionary (1960)
- Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg (1943, 1961)