Fforiwr a morwr o Loegr oedd Henry Hudson (tua 1565 – 1611) sydd yn nodedig am fentro i archwilio Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain a Thramwyfa'r Gogledd Orllewin, a'i ddarganfyddiadau ar hyd arfordiroedd a dyfrffyrdd Gogledd Ddwyrain yr Amerig.
Nid oes tystiolaeth o'i deulu, ei enedigaeth, nac ei ieuenctid. Er gwaethaf, mae'n debyg yr oedd yn Llundeiniwr,[1] a chredir iddo gael ei eni yn y 1560au.[2] Mae cofnodion yn cyfeirio ato fel meistr, yn hytrach na chapten, ac yn awgrymu felly yr oedd yn forlywiwr o ran ei swydd.[1]
Cafodd ei hurio gan Gwmni Mysgofi i ganfod Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain, a methiant fuont ei ymdrechion ym 1607 a 1608. Aeth ar drydedd fordaith i ganfod llwybr i Asia ar gais Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain ym 1609. Pan gafodd ei atal gan y rhew yn Spitsbergen, penderfynodd Hudson hwylio i'r gorllewin i geisio canfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin. Trwy fforio baeau Chesapeke, Delaware, ac Efrog Newydd, hawliwyd yr ardal honno yng Ngogledd America gan yr Iseldirwyr. Ariannwyd ei bedwaredd fordaith, a honno i ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, gan y Saeson ym 1610. Wedi cyfnod hir o aros yn y rhew, bu miwtini gan ei griw a chafodd Hudson, ei fab, a saith dyn arall eu gadael i farw.
Enwir Bae Hudson, Afon Hudson, a Chulfor Hudson ar ei ôl.
Cyfeiriadau
Darllen pellach
- Richard O'Connell, Hudson's Fourth Voyage (Philadelphia: Atlantis Editions, 1978).
- Douglas Hunter, Half Moon: Henry Hudson and the Voyage that Redrew the Map of the New World (Efrog Newydd: Bloomsbury Press, 2009).
- Peter C. Mancall, Fatal Journey: The Final Expedition of Henry Hudson (Efrog Newydd: Basic Books, 2009).