Henry Davis Pochin

Henry Davis Pochin
Ganwyd1824 Edit this on Wikidata
Wigston Edit this on Wikidata
Bu farw1895 Edit this on Wikidata
Man preswylBodnant Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cemegydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PriodAgnes Pochin Edit this on Wikidata
PlantLaura Elizabeth McLaren Edit this on Wikidata
Henry Davis Pochin, gan L. Nassard. Wellcome V0004726

Fferyllydd a diwydiannwr o Loegr oedd Henry Davis Pochin (25 Mai 182428 Hydref 1895). Dyfeisiodd broses i greu sebonau o wahanol liw, a phroses i ddefnyddio clai llestri i greu papur o ansawdd uchel.[1]

Bu'n berchennog pwll glo a gwaith haearn yn Nhredegar. Roedd yn ymddiddori mewn garddwriaeth a bu'n gyfrifol am ddatblygu gerddi'r Haulfre yn Llandudno a Gardd Bodnant yn Eglwysbach, bu hefyd yn ddylanwadol yn natblygiad Prestatyn fel cyrchfan wyliau.[2]

Gwasanaethodd fel maer Salford ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Stafford.[3]

Bywyd cynnar

Henry Davis Pochin plac glas yn Wigston

Ganwyd Pochin yn Wigston, ger Caerlŷr yn fab hynaf i William Pochin, amaethwr a'i ail wraig Elizabeth née Hurst[4]. Ychydig sy'n wybyddus am ei addysg gynnar, ond yn 13 mlwydd oed roedd yn ddisgybl yn ysgol berchnogol Caerlŷr. Yn 14 mlwydd oed, ym 1838, fe'i prentisiwyd yn y diwydiant cemegol a ffarmacolegol i ŵr o'r enw William Harris yn Northampton,[5] gan ddysgu'i grefft yno am gyfnod o bum mlynedd.[1]

Ym 1847 enillodd Tystysgrif Teilyngdod wedi sefyll arholiad materia medica y Gymdeithas Fferyllol.

Gyrfa

Am gyfnod rhwng darfod ei brentisiaeth ac astudio am ei dystysgrif bu'n gweithio i gwmni fferyllol James Woolley ym Manceinion, wedi ennill ei gymwysterau ail ymunodd a'r cwmni ym 1848, a gyda benthyciad o £600 gan ei dad, daeth yn bartner mewn cwmni fferyllol gyda Woolley ac A P Halliday A. P. Halliday & Co., manufacturing chemists yn Salford ym 1849.

Erbyn 1858 roedd Halliday a Wooley wedi marw a daeth Pochin yn unig berchennog y busnes gan ei ehangu'n sylweddol ac agor canghennau ym Mryste (1863) a Newcastle upon Tyne (1865). Adeiladwyd llwyddiant y cwmni ar allu dyfeisgar Pochin; cofrestrodd patent ar gyfer gloywi rosin, sylwedd brown a ddefnyddid i wneud sebon, drwy basio stêm drwyddo a'i distyllu fel ei bod yn troi'n wŷn a gan hynny'n creu'r gallu i wneud sebon gwyn, a thrwy ddefnyddio llifyn, sebonau o bob math o liwiau gwahanol. Roedd y broses o greu cacen alwm yn un a ddefnyddiodd llawer o glai llestri, a phrynodd Pochin nifer o fwyngloddiau clai llestri yng Nghernyw at y diben hwn[6].

Buddsodd Pochin yn helaeth mewn stoc nifer o gwmnïau, yn bennaf yn y diwydiannau peirianneg, haearn a dur gan ddod yn gyfarwyddwr ddau ar hugain o gwmnïau, gan gynnwys Cwmni Glo a Haearn Staveley, John Brown & Co. Ltd, Bolckow, Vaughan & Co. Ltd, a Chwmni Haearn a Glo Tredegar. Ar 8 Tachwedd 1884 bu tanchwa ym mhwll Tredegar, lle collodd 14 o lowyr eu bywydau[7]. Ar y cyd a Syr Edward Watkin, bu'n gyfrifol am achub Cwmni Rheilffordd y Metropolitan a oedd mewn trafferthion ariannol, bu hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Rheilffordd Manceinion a Sheffield, a Rheilffordd Swydd Lincoln.

Gyrfa Wleidyddol

Etholwyd Pochin i Gyngor Dinas Salford ym 1853 cafodd ei ddyrchafu i fainc henaduriaid y cyngor a gwasanaethodd fel maer y ddinas am ddau dymor olynol rhwng 1866 a 1868[8]. Yn Etholiad Cyffredinol 1868 fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Swydd Stafford, ond cafodd ei ddiarddel o'r sedd ar ddeiseb gan fod ei asiant a'i gefnogwyr wedi bygwth etholwyr yn ystod yr etholiad[9]. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1877.

Gogledd Cymru

Neuadd Bonant

Yn y 1870au prynodd Pochain tir yn ardal Prestatyn gan ddatblygu cyflenwad nwy, dŵr a charthffosiaeth y dref, gwellodd ansawdd y ffyrdd a datblygodd ardal glan y môr er mwyn gwneud y dref yn gyrchfan gwyliau ac awyr iach[10][11].

Rhwng 1871 a 1876 bu Pochin yn preswylio yn Haulfre, Llandudno, tŷ ar ochr deheuol y Gogarth, lle fu'n dilyn ei angerdd am arddio trwy greu gardd helaeth a theras serth; mae gerddi Haulfre bellach yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac maent ar agor at ddefnydd y cyhoedd[12].

Ym 1874 prynodd ystâd Bodnod yn Nyffryn Conwy, gan ei ail enwi yn Bodnant, dechreuodd byw ym mhlasty'r ystâd ym 1876 gan ei addasu'n helaeth a gan ddechrau datblygu'r gerddi enwog yno gyda chymorth y garddwr a'r ymgynghorydd tirwedd Edward Milner[13].

Bywyd personol

Ym 1852 priododd Pochin, Agnes, merch George Gretton Heap, Timperley, Swydd Gaer, bu iddynt 6 o blant. Roedd Agnes Pochin yn swffragét amlwg ac yn awdur un o'r llyfrau cyntaf i ddadlau dros roi'r bleidlais i ferched The Right of Women to Exercise the Elective Franchise (1855).

Bu farw Pochin ym Modnant yn 71 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd mewn claddgell ar yr ystâd. Roedd dau o'i chwe phlentyn yn dal yn fyw ar adeg ei farwolaeth, ei ferch Laura gwraig Barwn cyntaf Aberconwy a Percival Gerard ei fab; gan fod Percival wedi dwyn gwarth ar y teulu trwy gael ei erlyn am gam drin plentyn[14], torrwyd ef allan o ewyllys ei dad ac aeth Bodnant yn eiddo i Laura.

Capel & chladdgell Bodnant

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Trevor Boyns, "Pochin, Henry Davis (1824–1895)"Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press, 2004)
  2. CPAT Regional Historic Environment Record Prestatyn[dolen farw]
  3. Grace's Guide to British Industrial History Henry Davis Pochin; adalwyd 05 Gorffennaf 2016
  4. Wigston Historical Society Programme of Meetings August 2009 - February 2010 tud 5 Wigston Who's Who No 16 HENRY DAVIS POCHIN JP[dolen farw] adalwyd 7 Gorffennaf 2016
  5. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1841Gold Street, Northampton, cyf HO107/814 llyfr 2 ffolio 35 tud 17
  6. Henry Davis Pochin yn rhif 23 o gylchgrawn The China Clay History Society
  7. Durham Miners Museum - Disasters adalwyd 07 Gorffennaf 2016
  8. Salford City Council Previous Mayors Archifwyd 2016-05-08 yn y Peiriant Wayback adalwyd 7 Gorffennaf 2016
  9. "GENERAL - The Aberystwyth Times Cardiganshire Chronicle and Merionethshire News". Philip Williams. 1869-05-15. Cyrchwyd 2016-07-07.
  10. "DEATH OF MR POCHIN - Rhyl Journal". E. Pearce. 1895-11-02. Cyrchwyd 2016-07-07.
  11. "PRESTATYN - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1891-11-28. Cyrchwyd 2016-07-07.
  12. History Points Haulfre Gardens, Llandudno
  13. National Trust Bodnant
  14. "ILL TREATING A PAGE - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1891-01-31. Cyrchwyd 2016-07-07.

Read other articles:

Gunung SeongjuMusim dingin di Gunung SeongjuNama KoreaHangul성주산 Hanja聖住山 Alih AksaraSeongjusanMcCune–ReischauerSŏngchusan Seongjusan (성주산) atau Gunung Seongju adalah sebuah gunung yang terletak di Boryeong, provinsi Chungcheong Selatan, Korea Selatan.[1] Gunung Seongju merupakan puncak dari rangkaian pegunungan Geumbukjeongmaek, selain puncak Oseosan (791 m).[1] Gunung Seongju memiliki tinggi 680 meter dan merupakan objek wisata populer di musim gugur.[...

 

Artikel ini sebatang kara, artinya tidak ada artikel lain yang memiliki pranala balik ke halaman ini.Bantulah menambah pranala ke artikel ini dari artikel yang berhubungan atau coba peralatan pencari pranala.Tag ini diberikan pada Maret 2023. Halaman ini berisi artikel tentang malagizi paling parah. Untuk kegunaan lain, lihat Kebuluran (disambiguasi). KebuluranGadis Rusia yang kebuluran selama Bencana Kelaparan Rusia 1921–1922Informasi umumNama lainStarvasiSpesialisasiKedokteran perawatan g...

 

Census-designated place in Maryland, United StatesWaldorf, MarylandCensus-designated placeDr. Samuel A. Mudd House MuseumLocation of Waldorf, MarylandWaldorfShow map of MarylandWaldorfShow map of the United StatesCoordinates: 38°38′46″N 76°53′54″W / 38.64611°N 76.89833°W / 38.64611; -76.89833CountryUnited StatesStateMarylandCountyCharlesNamed forWilliam Waldorf AstorGovernment • TypeNo city government, Charles County Board of Commissioners ...

Stasiun Haba羽場駅Stasiun Haba, Maret 2015Lokasi176 Unuma-Haba-chō, Kakamigahara-shi, Gifu-ken 504-0905JepangKoordinat35°24′04″N 136°51′43″E / 35.4010°N 136.8620°E / 35.4010; 136.8620Koordinat: 35°24′04″N 136°51′43″E / 35.4010°N 136.8620°E / 35.4010; 136.8620Operator MeitetsuJalur■Jalur Meitetsu KakamigaharaLetak9.9 km dari Meitetsu-GifuJumlah peron2 peron sampingInformasi lainStatusTanpa stafKode stasiunKG02Situs ...

 

Cet article est une ébauche concernant le monde celtique et l’histoire. Vous pouvez partager vos connaissances en l’améliorant (comment ?) selon les recommandations des projets correspondants. Les peuples celtes du sud de l'Angleterre. Les Dumnonii ou Dumnones étaient un peuple celte brittonique de l'île de Bretagne qui habitaient une partie de la péninsule du sud-ouest de l'île, pendant la protohistoire de l'âge du fer et au début de la période romaine (voir Britto-romains...

 

Данио-рерио Научная классификация Домен:ЭукариотыЦарство:ЖивотныеПодцарство:ЭуметазоиБез ранга:Двусторонне-симметричныеБез ранга:ВторичноротыеТип:ХордовыеПодтип:ПозвоночныеИнфратип:ЧелюстноротыеГруппа:Костные рыбыКласс:Лучепёрые рыбыПодкласс:Новопёрые рыбыИн�...

1996 novel by Jeff Noon Automated Alice AuthorJeff NoonIllustratorHarry TrumboreCountryGreat BritainLanguageEnglishSeriesVurt seriesGenreSteampunkPublisherDoubledayPublication date1996Media typePrint (Paperback & Hardback)ISBN978-0-385-40808-0 (first edition, paperback)OCLC37155563Preceded byPollen Followed byNymphomation  Automated Alice is a fantasy novel by British author Jeff Noon, first published in 1996. The book follows Alice's travels to a future Mancheste...

 

Artikel ini perlu diwikifikasi agar memenuhi standar kualitas Wikipedia. Anda dapat memberikan bantuan berupa penambahan pranala dalam, atau dengan merapikan tata letak dari artikel ini. Untuk keterangan lebih lanjut, klik [tampil] di bagian kanan. Mengganti markah HTML dengan markah wiki bila dimungkinkan. Tambahkan pranala wiki. Bila dirasa perlu, buatlah pautan ke artikel wiki lainnya dengan cara menambahkan [[ dan ]] pada kata yang bersangkutan (lihat WP:LINK untuk keterangan lebih lanjut...

 

  لمعانٍ أخرى، طالع قات (توضيح). اضغط هنا للاطلاع على كيفية قراءة التصنيف قات   حالة الحفظ   أنواع غير مهددة أو خطر انقراض ضعيف جدا [1] المرتبة التصنيفية نوع  التصنيف العلمي  فوق النطاق  حيويات مملكة عليا  حقيقيات النوى مملكة  نباتات عويلم  نباتات ...

  هذه المقالة عن محافظة صومالية. للاعب كرة القدم المصري جدو، طالع محمد ناجي. جدو   الاسم الرسمي جدو موقع غذو الإحداثيات 2°26′17″N 41°29′03″E / 2.4380555555556°N 41.484166666667°E / 2.4380555555556; 41.484166666667   تقسيم إداري  البلد  الصومال  المحافظة محافظة غذو العاصمة جربهار�...

 

Anoiacomarca LocalizzazioneStato Spagna Comunità autonoma Catalogna Provincia Barcellona AmministrazioneCapoluogoIgualada TerritorioCoordinatedel capoluogo41°34′53″N 1°37′15″E / 41.581389°N 1.620833°E41.581389; 1.620833 (Anoia)Coordinate: 41°34′53″N 1°37′15″E / 41.581389°N 1.620833°E41.581389; 1.620833 (Anoia) Superficie866,28 km² Abitanti105 376 (2005) Densità121,64 ab./km² Comuni33 Altre informazioniFuso...

 

For other uses, see Outremont (disambiguation). Borough of Montreal in Quebec, CanadaOutremontBorough of Montreal Location of Outremont on the Island of Montreal. (Light grey areas indicate City of Montreal).CountryCanadaProvinceQuebecRegionMontreal (06)CreatedJanuary 1, 2002Electoral Districts FederalOutremontProvincialMont-Royal–OutremontGovernment[1][2][3] • TypeBorough • MayorLaurent Desbois (EM) • Federal MP(s)Rachel Bend...

Spanish composer (1860–1909) Albeniz redirects here. For other uses, see Albeniz (disambiguation). In this Spanish name, the first or paternal surname is Albéniz and the second or maternal family name is Pascual. Isaac AlbénizAlbéniz in 1901BornIsaac Manuel Francisco Albéniz y Pascual(1860-05-29)29 May 1860Camprodon, Catalonia, SpainDied18 May 1909(1909-05-18) (aged 48)Cambo-les-Bains, FranceResting placeMontjuïc CemeteryOccupation(s)pianist, ComposerYears active1864�...

 

Japanese pop culture magazine NewtypeCover of the November 2018 issueCategoriesAnime, manga, tokusatsu, Japanese science fiction, and video gamesFrequencyMonthlyCirculation160,750[1]First issueMarch 8, 1985; 39 years ago (1985-03-08)CompanyKadokawa ShotenCountryJapanBased inTokyoLanguageJapaneseWebsiteanime.webnt.jp Newtype (ニュータイプ, Nyūtaipu) is a monthly magazine originating from Japan covering anime and, to a lesser extent, manga, seiyū, science ficti...

 

Good that is non-excludable and non-rival For the general concept, see Common good. Aids to navigation are often used as an example of a public good, as they benefit all maritime users, but no one can be excluded from using them. InfrastructureGrand Coulee Dam Assets and facilities Airports Bridges Broadband Canals Coastal management Critical infrastructure Dams Electricity Energy Hazardous waste Hospitals Irrigation schemes Levees Lighthouses Parks Pipeline transport Ports Mass transit Publi...

Untuk kegunaan lain, lihat MRT. Mass Rapid Transit (MRT)大众快速交通 (地铁)Sistem Pengangkutan Gerak Cepatசிங்கை துரிதக் கடவு ரயில்Pintu masuk stasiun MRT CanberraInfoPemilikLand Transport AuthorityWilayahSingapuraJenisAngkutan cepatJumlah jalur8 (5 beroperasi, 1 dalam pembangunan dan 2 dalam perencanaan)Jumlah stasiun154 (102 beroperasi, 52 dalam pembangunan atau perencanaan)Penumpang harian2.879 juta (2015), kecuali LRT[1]OperasiDi...

 

Classification of fissile nuclear material Special nuclear material (SNM) is a term used by the United States Nuclear Regulatory Commission to classify fissile materials. The NRC divides special nuclear material into three main categories, according to the risk and potential for its direct use in a clandestine nuclear weapon or for its use in the production of nuclear material for use in a nuclear weapon.[1] Highly Enriched Uranium History The Atomic Energy Act of 1946 gave the newly-...

 

Adam Schall von Bell vestito con abiti cinesi Johann Adam Schall von Bell (Colonia, 1º maggio 1591 – Pechino, 15 agosto 1666) è stato un gesuita tedesco. Indice 1 Biografia 2 Bibliografia 3 Altri progetti 4 Collegamenti esterni Biografia Nato il 1º maggio 1592 a Colonia, studiò dapprima in patria e, dal 1608, a Roma, nel Collegio Germanico-Ungarico. Nel 1611 entrò nella Compagnia di Gesù. A sua richiesta, fu mandato nelle missioni nel 1617, appena ordinato sacerdote. Destinato alla Ci...

خايمي سالازار معلومات شخصية الميلاد 6 فبراير 1931(1931-02-06)مدينة مكسيكو  الوفاة 14 مارس 2011 (80 سنة)   كويرنافاكا  مركز اللعب وسط الجنسية المكسيك  المسيرة الاحترافية1 سنوات فريق م. (هـ.) نيكاكسا المنتخب الوطني 1956–1957 المكسيك 8 (0) المواقع مُعرِّف الاتحاد الدولي لكرة القدم 57381&...

 

This article has multiple issues. Please help improve it or discuss these issues on the talk page. (Learn how and when to remove these template messages) This article is in list format but may read better as prose. You can help by converting this article, if appropriate. Editing help is available. (September 2013) This article needs additional citations for verification. Please help improve this article by adding citations to reliable sources. Unsourced material may be challenged and removed....