Hawke's Bay

Te Matau-a-Māui
Mathrhanbarthau Seland Newydd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlHawke Bay Edit this on Wikidata
PrifddinasNapier Edit this on Wikidata
Poblogaeth166,368 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+12:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSeland Newydd Edit this on Wikidata
GwladSeland Newydd Edit this on Wikidata
Arwynebedd14,111 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBae Digonedd, Gisborne District, Manawatū-Whanganui Region, Waikato Region Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.4167°S 176.8167°E Edit this on Wikidata
NZ-HKB Edit this on Wikidata
Map

Mae Hawke's Bay yn ardal ar arfordir dwyreiniol Ynys y Gogledd, Seland Newydd. Enw Maori yr ardal yw Te Matau-a-Māui[1]. Enwyd yr ardal gan Captain James Cook i anrhydeddu’r lyngesydd Edward Hawke.

Daearyddiaeth

Mae’r bae ei hyn yn estyn am 100 cilomedr o Benrhyn Mahia i Cape Kidnappers. Mae’r ardal yn cynnwys tir bryniog ger y bae, Afon Wairoa yn y gogledd, Gwastatir Heretaunga ger Hastings yn y De, a’r Bryniau Kaweka a Bryniau Ruahine, gan gynnwys mynydd Taraponui. Mae 5 afon fawr yn llifo i’r bae; Afon Wairoa, Afon Mohaka, Afon Tutaekuri, Afon Ngaruroro ac Afon Tukituki. Mae Llyn Waikaremoana yr un mwyaf yr ardal.


Gweinyddiaeth

Mae Hawke’s Bay yn cynnwys yr ardaloedd Wairoa, Hastings, Napier, Canol Hawke's Bay a hefyd Taharua yn ardal Taupo a Ngamatea in ardal Rangitikei.[2][3] Awgrymwyd gan Gomisiwn Llywodraeth Leol ym mis Mehefin 2015 bod bod y 4 ardal Hawke’s Bay yn uno â Cyngor Hawke's Bay ond gwrthodwyd y syniad gan y trigolion mewn pleidlais.[4][5]


Demograffi

Poblogaeth Hawke’s Bay

1991:138,342

1996:142,791

2001:142,950

2006:147,783

2013:151,179

2018:166,368 [6][7][8]

Prif trefi'r ardal yw Napier, Hastings, Havelock North, Wairoa, Waipukurau, Clive, a Waipawa.

Mae trefi a phentrefi eraill yn Hawke's Bay yn cynnwys:

Diwylliant a hunaniaeth

Yn ôl Cyfrif 2018, roedd 75.0% o boblogaeth Hawke’s Bay yn bobl wyn (Pākehā), 27.0% yn Māori, 5.6% yn bobl y Cefnfor Tawel, 5.0% o Asia, a 1.7% eraill. Mae gan rhai mwy nac un ethnigrwydd. Ganwyd 15.9% tramor, o gymharu â 27.1% dros Seland Newydd i gyd. Enw y llwyth Maori leol yw Ngāti Kahungunu.

Nid oedd gan 48.5% unrhyw grefydd; roedd 37.4% yn Gristnogion, ac roedd gan 7.2% grefydd arall, yn ôl Cyfrifiad 2018.

Amaeth

Mae gan yr ardal winllannoedd a pherllannau ar dir wastad a chedwir defaid a gwartheg ar y bryniau, ac mae fforestydd. Yn ogystal ag afalau a grawnwin, tyfir pwmpenni, ffa a phys.[9] Plannwyd grawnwin cyntaf yr ardal gan genhadon ynghanol y 19eg ganrif, ac mae gwin coch yn bwysig i’r ardal erbyn hyn.[10] Erbyn 2018, roedd 4681 hectar o winllannoedd a 91 o gynhyrchwyr.[11]

Hanes

Roedd diwydiant morfila ar arfordir y bae yn ystod y 19eg ganrif.[12]

Sefydlwyd talaith Hawke’s Bay ym 1858, yn gwahanu oddi wrth dalaith Wellington. Newidiwyd taleithiau Seland Newydd i fod yn Ardaloedd Taleithiol ym 1876.

Roedd daeargryn maint 7.9 yn Hawke’s Bay. Ar 3 Chwefror 1931. Dinistriwyd rhan mawr o Napier a Hastings. Bu farw 256 o bobl. Ailadeiladwyd Napier mewn dull Art Deco. Mae gan Amgueddfa Hawke’s Bay arddangosfa am y daeargryn.

Awyrofod

Mae Hawke's Bay yn gartref i safle lansio Rocket Lab ar Benrhyn Mahia, a gwelir lansiadau o [[Arfordir Gofod Seland Newydd, Wairoa.[13]Mae Rocket Lab wedi lansio sawl roced yn flynyddol ers yr un cyntaf, Humanity Star ym mis Ionawr 2018.

Teledu a radio

Mae gan yr ardal ei sianel ei hun, TVHB, ac mae sawl gorsaf radio, megis Radio Kahungunu, The Hits 89.5, More FM, Radio Kidnappers a Bay FM yn ogystal â’r sianeli radio a theledu cenedlaethol.

Tu mewn gwinllan yr ardal

Gwin

Cynhyrchir gwin yn Hawke’s Bay, ac mae dwy ŵyl fwyd a gwin yn flynyddol yno, yn denu miloedd o ymwelwyr, llawer ohonynt o dramor[14]

Adloniant

Cynhelir Cyngerdd Mission yn Napier yn flynyddol ers 1993 ar Stad Gwinllan Mission yn Taradale. Mae Kenny Rogers, Shirley Bassey, Rod Stewart, The B-52's, Belinda Carlisle, Ray Charles, a Eric Clapton wedi perfformio yno.

Seismigedd

Mae’r ardal un o’r mwyaf fywiog yn seismigol yn Seland Newydd ac mae profi dros 50 o ddaeargrynfeydd ers yr 1800au.

Llywodraeth

Llywodraethir yr ardal gan Gyngor Rhanbarthol Hawke’s Bay, gyda’i swyddfa yn Napier. Mae 9 aelod, a chynhelir etholiad bob tair blynedd.

Chwaraeon

Mae rygbi yn boblogaedd, ac mae’r Hawke's Bay Magpies yn cynrychioli’r ardal, ei chwaraewyr yn dod o’r clybiau lleol. Maent yn chwarae ym Mharc McLean yn Napier. Mae nifer o chwaraewyr nodedig y Crysau Dun yn dod o Hawke’s Bay, gan gynnwys:-

Mae’r Hawke's Bay Hawks yn cystadlu yng Nghyngrair Genedlaethol Pêl-fasged Seland Newydd.

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. Pollock, Kerryn. 'Hawke’s Bay region - Overview'. Te Ara - the Encyclopedia of New Zealand. (gwelwyd 9 Tachwedd 2017)
  2. Pollock, Kerryn (15 Tachwedd 2012). "Hawke's Bay region – Local government boundary changes". Te Ara – the Encyclopedia of New Zealand.
  3. Pollock, Kerryn (15 Tachwedd 2012). "Hawke's Bay region – Government, education and health". Te Ara – the Encyclopedia of New Zealand.
  4. Lunn, Annette (9 June 2015). "Hawke's Bay to amalgamate councils". Newstalk ZB.
  5. Henderey, Simon (15 Medi 2015). "Hawke's Bay voters reject five-council amalgamation proposal". The Dominion Post. Cyrchwyd 23 Mawrth 2019.
  6. Census 2018
  7. "2001 Census". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2021-05-20.
  8. "Census". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-10. Cyrchwyd 2021-05-20.
  9. Facts: New Zealand Horticulture, 2018[dolen farw]
  10. "The-Wine-Library". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-05. Cyrchwyd 2021-06-23.
  11. https://www.nzwine.com/media/9567/nzw-annual-report-2018.pdf gwefan nzwine.com
  12. Don Grady (1986) Sealers & whalers in New Zealand waters; cyhoeddwyr Reed Methuen, Auckland tud.150;ISBN|0474000508
  13. Gwefan visitwairoa.co.nz
  14. Gwefan nzherald.co.nz, 13 Tachwedd 2017|