Harry James Potter yw enw un o gymeriadau dychmygol y gyfres Harry Potter o'r un enw gan J. K. Rowling. Mae'r gyfres yn disgrifio saith mlynedd ym mywyd y bachgen amddifad hwn: yn un-ar-ddeg oed mae'n dod i wybod am ddewiniaeth. Mynycha Ysgol Dewiniaeth a Gwrachyddiaeth Hogwarth i ddysgu a gwella ei alluoedd goruwchnaturiol. Ei Brifathro caredig yno ydy Albus Dumbledore a sylweddola ei fod eisoes yn enwog gan fod ei ddyfodol wedi'i glymu'n sownd wrth Lord Voldemort, Dewin Du a'r cymeriad a lofruddiodd rhieni Harry.
Tra ei bod ar trên hwyr o Fanceinion i King's Cross Llundain yn 1990, chwipiodd y cymeriad (a'r gyfres) drwy ddychymyg Rowling. Dywedodd mai'r hyn a welodd yn wreiddiol oedd bachgen penddu, gyda sbectol na wyddai am ei alluoedd cyfrin.[1] Tra'n datblygu'r syniad hwn penderfynodd fod yn rhaid i Harri fod yn blentyn amddifad a oedd yn ddisgybl preswyl mewn ysgol o'r enw Hogwarth. Mewn cyfweliad yn y The Guardian yn 1999 dywedodd: "Harry had to be an orphan — so that he's a free agent, with no fear of letting down his parents, disappointing them ... Hogwarts has to be a boarding school — half the important stuff happens at night! Then there's the security. Having a child of my own reinforces my belief that children above all want security, and that's what Hogwarts offers Harry."[2]