Mae gorsaf reilffordd King's Cross Llundain (neu yn syml King's Cross) yn orsaf reilffordd pwysig[1] sy'n gwasanaethu gogledd Llundain, prif ddinas Lloegr.
Mae King's Cross yn derfynfa ddeheuol y Brif Linell Arfordir Dwyrain. Leeds, Newcastle a Chaeredin yw rhai o'i chyrchfannau pellter hir pwysicaf. Mae'r orsaf hefyd yn cynnal gwasanaethau i Swydd Bedford, Swydd Hertford a Swydd Gaergrawnt, a gwasanaethau rhanbarthol cyflym i Peterborough, Caergrawnt a King's Lynn.
Hanes
Adeiladwyd King's Cross yn wreiddiol fel canolbwynt y Great Northern Railway yn Llundain a therfynfa'r brif linell Arfordir y Dwyrain. Cymerodd ei enw o'r ardal King's Cross yn Llundain, a enwyd ar ôl cofeb i'r Brenin Siôr IV a ddymchwelwyd yn 1845.
Cyfeiriadau