Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd hinsawdd wleidyddol Ewrop o blaid uno'r cyfandir. Gwelid hyn gan lawer o bobl fel dianc o'r cenedlaetholdeb eithafol oedd wedi bod mor arswydus. Digwyddodd un ymgais o'r fath ym 1951 pan sefydlwyd y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD) gan Gytundeb Paris. Er ei bod â'r amcan gwylaidd o reoli'n ganolog diwydiannau glo a dur ei haelod-wladwriaethau, datganwyd bod y Gymuned yn "gam cyntaf yn ffederasiwn Ewrop". Aelodau gwreiddiol y Gymuned oedd: Gwlad Belg, Ffrainc, yr Eidal, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd a Gorllewin yr Almaen.
Ymunodd Gwlad Groeg, Sbaen a Phortiwgal yn y 1980au. Ym 1985, datblygwyd Cytundeb Schengen rhwng gwladwriaethau Ewropeaidd er mwyn caniatáu dileu rheolaethau ffin rhwng y gwledydd cyfranogol. Ym 1986, mabwysiadwyd baner Ewrop a llofnododd arweinwyr Ewropeaidd y Ddeddf Ewropeaidd Sengl, oedd i fod i leihau rhwystrau masnach a chyflwyno cydweithrediad gwleidyddol Ewropeaidd. Ym 1990, ar ôl cwymp y Llen Haearn, daeth Dwyrain yr Almaen yn rhan o'r Gymuned fel rhan o'r Almaen wedi'i haduno. Gydag ehangu tuag at ddwyrain Ewrop ar yr agenda, cytunwyd ar y Meini Prawf Copenhagen ar gyfer gwledydd oedd yn dymuno ymuno â'r Gymuned.
Llofnodwyd y Cyfansoddiad Ewropeaidd yn Rhufain yn 2004. Roedd ef i fod i ddisodli'r holl gytundebau blaenorol ag un ddogfen. Serch hynny, ni chwblhaodd erioed y broses o gadarnhau ar ôl cael ei wrthod mewn refferenda yn Ffrainc a'r Iseldiroedd. Yn 2007, cytunodd arweinwyr yr UE ddisodli'r cynnig hwnnw â chytundeb newydd, sef Cytundeb Lisbon, a fyddai'n diwygio'r cytundebau presennol yn lle eu disodli. Ar ddechrau 2007, daeth Rwmania a Bwlgaria yn aelodau'r UE, a mabwysiadodd Slofenia yr ewro. Croatia yw'r wladwriaeth ddiweddaraf i ymuno â'r UE, a hynny ar 1 Gorffennaf 2013.