O'r 15g i 1812, yr oedd Tywysogaeth Moldofa, neu Foldafia, hefyd yn cynnwys rhanbarth Besarabia i'r dwyrain, tiriogaeth ddadleuol a hawliwyd gan y Rwsiaid a'r Otomaniaid. Ym 1812, ildiwyd Besarabia a dwyrain Moldofa i Ymerodraeth Rwsia, a elwid oll yn "Fesarabia",[1] a fyddai'n meddu ar ymreolaeth nes iddi gael ei chyfeddiannu i Rwsia ym 1828. Ar ochr arall y ffin, unodd Tywysogaethau Donaw i ffurfio Tywysogaeth Rwmania ym 1862. Datganodd Besarabia ei hannibyniaeth oddi ar Rwsia ym 1918 ac unodd â Rwmania. Ym 1940 gorfodwyd i Rwmania ildio Besarabia i'r Undeb Sofietaidd, a châi ei chyfuno â llain arall o dir i ffurfio Gweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Moldafia. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991, datganwyd annibyniaeth Gweriniaeth Moldofa, ac yn aelod o Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol. Arweiniodd gwrthdaro ethnig at ddatgan annibyniaeth yn rhanbarthau Dniestr a Gagauz, a chanddynt boblogaethau mawr o Rwsiaid ac Wcreiniaid. Mae nifer o Foldofiaid yn cefnogi'r mudiad i uno'r wlad â Rwmania. Enillodd y comiwnyddion yr etholiad yn 2001, a buont mewn grym nes 2009. Ffurfiwyd llywodraeth glymblaid.[2]
↑Marcel Mitrasca, Moldova: A Romanican Province Under Russian Rule (Diplomatic History from the Archives of the Great Powers) (Efrog Newydd: Algora, 2002) T. 46