Dinas ganolog ei maint yng nghanolbarth Tiwnisia yw Hammam Sousse (Arabeg حمّام سوسة "Baddon Sousse"). Gorwedd ger lan Gwlff Hammamet tua 7 km i'r gogledd o ddinas Sousse. Mae ganddi boblogaeth o 34,685 (2004). Erbyn heddiw mae'n cyfrif fel un o faesdrefi Sousse.
Mae gan y dref orsaf ar reilffordd Tiwnis-Sfax. Rhed y briffordd GP1 trwy'r dref gan ei chysylltu â'r brifddinas Tiwnis i'r gogledd.
Pobl o Hammam Sousse