Ymunodd Al-Abadi â'r Blaid Dawa anghyfreithlon ym 1967. Mynychodd Brifysgol Manceinion a graddiodd gyda PhD mewn Peirianneg Drydanol ym 1993.[1] Dychwelodd i Irac yn ystod y Goresgyniad Irac 2003. Ar 8 Medi 2014, olynodd Nouri al-Maliki fel Prif Weinidog Irac.[2]
Un o'i ddyletswydda pennaf tra'n Brif Weinidog oedd wynebu'r Wladwriaeth Islamaidd (ISIL)
. Bu'n hynod o feirniadol o'r Unol Daleithiau America (UDA) am iddynt, yn ei farn ef, orwedd ar eu rhwyfau yn htrach na'u hymladd.[3] Trodd ei olygon tuag at Rwsia ac Iran am gymorth, gan annog cydweithrediad milwrol gyda'r ddau bartner newydd yma.[4]