Yn y chwedl Cymraeg Canol gynnar Culhwch ac Olwen, mae Gwyn yn cipio'r forwyn Creiddylad, ferch Lludd Llaw Ereint ar ôl iddi redeg i ffwrdd gyda Gwythyr ap Greidawl, ymgeisydd Gwyn am ei chariad. Mae Gwyn a Gwythyr yn ymladd ei gilydd ar Galan Mai, brwydr symbolaidd efallai sy'n cynrychioli'r ymryson oesol rhwng y gaeaf a'r haf gyda Creiddylad yn cynrychioli y dduwiesNatur. Yn y chwedl mae Gwyn yn un o'r rhai sy'n cynorthwyo yr arwr Culhwch i hela'r Twrch Trwyth.
Ceir cyfres o englynion cynnar yn Llyfr Du Caerfyrddin ar ffurf deialog rhwng Gwyn ap Nudd a Gwyddno Garanhir, sy'n portreadu Gwyn fel rhyfelwr nerthol heb arlliw o fytholeg o'i gwmpas. Rhestrir nifer o safleoedd brwydrau yn y gerdd, llawer ohonyn nhw yn yr Hen Ogledd.
Cyfeiria Dafydd ap Gwilym (14g) sawl gwaith at Wyn ap Nudd. Mae'n cyfeirio at y llwynog fel "edn i Wyn ap Nudd", er enghraifft, ac mae'r niwl yn "tyrau uchel eu helynt, / tylwyth Gwyn, talaith y gwynt".[2]
Mewn chwedlau llên gwerin diweddarach mae Gwyn yn cymryd lle Arawn fel brenin Annwn. Yn y cyswllt hynny mae'n arwain Cŵn Annwn ar eu helfa wyllt trwy'r nos.
Gwyn ap Nudd yw brenin y Tylwyth Teg yn llên gwerin Cymru, a cheir sawl chwedl amdano. Mae un chwedl yn adrodd sut y daeth Sant Collen i lys Gwyn ap Nudd ym mynyddoedd Y Berwyn a'i orchfygu a dangos mai hud a lledrith yn unig oedd ei balas gwych. Yn y chwedl mae Gwyn a'i bobl yn gwisgo dillad lliw coch a glas.
Mae gwyn yn gytras â'r gair Gwyddelegfionn ("gwyn, teg"). Ymddengys fod cysylltiad rhwng Gwyn ap Nudd a'r arwr Gwyddelig chwedlonol Fionn mac Cumhaill, oedd yn ŵyr i Nuada. Mae enw Nudd, tad Gwyn, yn ffurf Gymreig ar Nuada ac mae'r ddau yn gysylltiedig â'r duw CeltaiddNodens.
Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod enw Y Berwyn yn deillio o'r ffurf Gymraeg Cynnar bre wyn "Allt Gwyn" (gweler hefyd Caer Drewyn, ger Corwen). Cysylltir Gwyn â llynnoedd sy'n gartref i bysgod (cf. Fionn a'r eog) a thylluanod.
Yn ôl llawysgrif Ladin o'r 14eg ganrif yn erbyn dewiniaeth, byddai "dynion hysbys" Cymreig yn ailadrodd y canlynol:[3]
Ad regem Eumenidium,
et reginam eius:
Gwynn ap Nwdd
qui es ultra in silvis
pro amore concubine
tue permitte nos venire domum.
Frenin y Tylwyth Teg,
a'i Frenhines:
Gwyn ap Nudd
tydi ysydd yn bell yn y coed
er cariad dy gymar
caniatâ i ni ddyfod i mewn i'th breswylfa.
Defnyddir y gair Lladin Eumenidium, sy'n gallu cael ei gyfieithu fel "y Rhai Cyfeillgar"[4] a bod yn air teg i olygu y tylwyth teg, a brenin y tylwyth teg yw Gwyn ap Nudd, felly drwy resymeg gellir dweud mai Gwyn ap Nudd yw "Eumenidium."
↑Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, ail arg. 1963), 26.40, 68.32.
↑Lindahl, Carl; Mcnamara, John; Lindow, John, gol. (2002). Medieval Folklore: A Guide to Myths, Legends, Tales, Beliefs, and Customs (yn Saesneg). Oxford University Press. t. 120.
↑Rüdiger, Angelika H (2012). "Gwyn ap Nudd: Transfigurations of a character on the way from medieval literature to neo-pagan beliefs". Gramarye: The Journal of the Sussex Centre for Folklore, Fairy Tales and Fantasy: Issue 2. University of Chichester. t. 38.
Llyfryddiaeth
d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages. Avalonia.
Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988)
T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; arg. newydd 1979)