Darlledwr a phregethwr o Gymruoedd Gwyn Erfyl (9 Mehefin 1924 – 4 Mai 2007).[1] Cynhyrchodd gyfoeth o raglenni gan greu archif o fywyd a phersonoliaethau Cymru yn ystod rhan olaf y ganrif ddiwethaf.
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd Gwyn Erfyl Jones yn fab i Miriam a William Tomley Jones. Fe'i magwyd ar Fferm Aberdeunant, ger Llanerfyl, yn Sir Drefaldwyn. Brawd iddo oedd y cerddor Gwilym Gwalchmai Jones. Mynychodd ysgol y pentref cyn mynd i Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion. Ei gredoau crefyddol dwfn a rwystrodd, fel dyn ifanc, rhag iddo ymuno â'r Fyddin ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Treuliodd dair blynedd adeg y rhyfel ar staff gwersylloedd carcharorion, yn bennaf yng Ngwersyll y Fenni.
Aeth ymlaen i'r brifysgol yn Aberystwyth lle dewisodd astudio athroniaeth o dan yr athronydd a'r cenedlaetholwr J. R. Jones. Gorfododd y pwnc a ddewisodd iddo ailasesu ei nod o ddod yn bregethwr, gan chwalu ei ffydd. Ar ôl graddio derbyniodd swydd darlithydd athroniaeth yng Ngholeg Harlech.[2]
Gyrfa
Ar ôl blwyddyn o waith ymchwil i'r Bwrdd Glo yn Llundain cafodd ei ordeinio ym 1954. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nhrawsfynydd, Glanaman a Chaerdydd. Cychwynnodd yn y byd darlledu gan weithio yn rhan-amser ar gyfres Y Dydd cyn ymuno â'r staff llawn amser yn ddiweddarach. Gweithiodd hefyd ar raglen Dan Sylw - mwy na 40 rhifyn awr o hyd bob blwyddyn. Bu'n cyflwyno a chynhyrchu cyn dod yn is-bennaeth rhaglenni TWW ac HTV Cymru.
Enillodd enw da yn gyflym fel cyflwynydd treiddgar a diwylliedig ac fel cynhyrchydd y daeth ei raglenni yn gronicl heb ei ail o fywyd yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd ei benodi'n Bennaeth Rhaglenni Dogfen a Chrefydd HTV Cymru'n 1980 ac ymddeol o'r swydd yn 1985.
Ef oedd golygydd Barn o 1975 tan 1979.
Derbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1992.
Bywyd personol
Roedd yn briod â Lisa ac roedd ganddynt pedair o ferched, yn cynnwys yr awdur a chomisiynydd teledu Angharad Jones a fu farw yn 2010.[3] Merch arall yw Eleri Løvgreen, cyfieithydd a chynghorydd tref yng Nghaernarfon, sydd yn wraig i'r bardd, yr adlonwr a'r cyfieithydd Geraint Løvgreen.[4]
Wedi ymddeol, bu'n weinidog lleyg. Bu farw yn 82 oed yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar ôl byw am sawl blwyddyn yng Nghaernarfon.[5]
Detholiad cyhoeddiadau
- Cerddi Gwyn Erfyl (1970)
- Dan Sylw (1971)
- Credaf (1985)
- Trwy Ddirgel Ffyrdd (1997)
- Cyfrol Deyrnged Jennie Eirian (Gee, 1985).
- Cerddi y Tad a'r Mab (-yng-Nghyfraith), gyda Geraint Løvgreen (2003)
Cyfeiriadau