Neidr wenwynig o deulu'r Viperidae yw'r wiber (Vipera berus). Fe'i ceir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia mewn llawer o gynefinoedd gwahanol megis rhostir, twyni, corsydd a choetir agored.[1] Gan amlaf mae'r gwryw'n llwyd golau gyda phatrwm igam-ogam du ar y cefn. Mae'r fenyw'n frown neu gochaidd gyda marciau brown tywyll.[1] Mae'r wiber yn bwydo ar famaliaid bach yn bennaf ond mae'n bwyta adar, brogaod a madfallod hefyd.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Arnold, Nicholas & Denys Ovendon (2004) A Field Guide to the Reptiles and Amphibians of Britain and Europe, Collins, Llundain.
Dolenni allanol