Gwenllian ferch Owain Glyndŵr

Gwenllian ferch Owain Glyndŵr
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd15 g Edit this on Wikidata
TadOwain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata
MamMargaret Hanmer Edit this on Wikidata

Un o blant Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru oedd Gwenllian ferch Owain Glyn Dŵr (bl. hanner cyntaf y 15g).[1]

Hanes

Rydym yn dibynnu yn bennaf am ein gwybodaeth am Wenllian ar ddwy gerdd gan y bardd canoloesol Lewys Glyn Cothi (tua 1420-1489). Ceir llinach ei gŵr yn yr achau hefyd.

Ymddengys mai merch anghyfreithlon oedd Gwenllian, ond ni olygai hynny nad oedd hi'n cael ei harddel gan ei thad, fel mae ei henw'n dangos, na chwaith ei bod mewn sefyllfa o 'warth'; yng Nghyfraith Hywel roedd "plant perth a llwyn" yn gallu mwynhau braint a statws uchel a ddeilliai o statws eu rhieni yn y gymdeithas ac roedd cael ac arddel plant y tu allan i briodas yn beth cyffredin iawn. Ni wyddys pwy oedd mam Gwenllian, pryd y cafodd ei geni, na lle cafodd ei magu.

Priododd Gwenllian uchelwr o ardal Sant Harmon ger Rhaeadr Gwy, yng nghwmwd Gwerthrynion, Powys. Phylib ap Rhys oedd ei enw, arglwydd Cenarth yn Sant Harmon. Roedd yn un o ddisgynyddion Ieuan Llwyd o Lyn Aeron, Ceredigion. Uchelwr o statws oedd Phylib, a gofir fel un o noddwyr amlycaf y beirdd yn y rhan honno o Bowys; ceir cerddi iddo gan Llawdden a Llywelyn ab y Moel yn ogystal â gan Lewys Glyn Cothi ei hun.

Ni wyddom pryd y bu farw Gwenllian, ond cyfansoddodd Lewys Glyn Cothi gywydd marwnad gofiadwy iddi wrth y teitl 'Marwnad Gwenllian ferch Owain Glyn Dŵr'. Disgrifia hi fel

Y wraig a oedd aur ei gwallt
o ryw hyddod y Rhuddallt,
llawen fu Wenllian ferch
Owain Hen, Duw'n ei hannerch.
Nid rhyfedd o'r mawredd maith
euro gwenlloer o Gynllaith.[2]

Rhuddallt oedd cartref taid Owain Glyn Dŵr, ym mhlwyf Rhiwabon ym Maelor Gymraeg. Arglwydd Cynllaith oedd Owain Glyn Dŵr. Pwysleisia'r bardd gwladgarol mai merch Glyn Dŵr oedd Gwenllian eto:

Nid oedd Wenllian annoeth,
A Gwen oedd dda ac yn ddoeth,
A da oedd leuad Owain,
A gorau 'mysg aur a main,
A'i thad oedd d'wysog cadarn,
A holl Gymru fu yn ei farn.[3]

Molir Gwenllian am ei haelioni yn y llys, am roi elusen i'r tlodion ac am gadw gwyliau'r eglwys; pethau arferol mewn cerddi moliant a marwnad sy ddim yn ychwanegu llawer at ein gwybodaeth. Er hynny mae yna dinc personol yn y gerdd ac mae'n amlwg fod galar Lewys Glyn Cothi yn ddiffuant. I gloi'r farwnad mae'n dymuno lle yn y nef i Wenllian:

Duw a ethol y doethion,
ninnau sydd fal briwydd bron.
Gwenllian mal gwinllan medd
fu Luned ful o Wynedd,
a Iesu fo cynhwyswr
I Luned wen o Lyndŵr.[4]

(Llawforwyn Iarlles y Ffynnon yn y Rhamant o'r un enw oedd Luned; daeth ei enw yn drosiad am ferch hardd.)

Ni wyddom ddyddiad marw Gwenllian, mwy na dyddiad ei geni.

Plant

Arfbais Glyn Dŵr ar ei faner.

Fel merch Glyn Dŵr, roedd gan Wenllian waed tywysogion Gwynedd, Powys a Deheubarth yn ei gwythiennau.

Cafodd Gwenllian bedwar mab gan Phylib, sef Dafydd, Meredudd, Rhys ac Owain. Canodd Lewys Glyn Cothi farwnad i Rhys ac Owain gyda'i gilydd. Ceir testun yr awdl yn llawysgrif Peniarth 109, yn llaw Lewys Glyn Cothi ei hun; darluniodd y bardd darian Owain Glyn Dŵr ar ben y dudalen. Cyfeirir at y galar gyffredinol yng Nghenarth ac yn Sycharth (safle llys Glyn Dŵr) "buarth y ddwy Bowys" (sef Powys Fadog a Powys Wenwynwyn) am "ddau weilch Deheubarth".[5]

Ymddengys fod y ddau fab arall, Meredudd a Dafydd, yn fyw pan fu farw Gwenllian am y cyfeirir atynt yn ei marwnad ond dim at Owain a Rhys. Mae Lewys Glyn Cothi yn cyfeirio atynt fel "llewod Gwenllian" yn ei farwnad i'w mam. Mae hynny'n anghyffredin gan y disgwylid cyfeiriad at y tad mewn cyd-destun milwrol fel hyn (trosiad am 'ryfelwyr' yw 'llewod' yma); awgrym o statws Gwenllian fel un o ferched Glyn Dŵr efallai.

Llewod sy i Wenllian,
a gwŷr o'i hil a gâi ran:
Meredudd, Dafydd, goed onn,
mae ym obaith am ei meibion.
Un hynt Owain eu hendad
ydynt dan adain eu tad.[6]

Cyfeiriadau

  1. Gwaith Lewys Glyn Cothi, gol. Dafydd Johnston (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995), cerdd 188 a'r nodiadau
  2. Gwaith Lewys Glyn Cothi, cerdd 188, llinellau 1-6
  3. Gwaith Lewys Glyn Cothi, cerdd 188, llinellau 22-26
  4. Gwaith Lewys Glyn Cothi, cerdd 188, llinellau 55-60
  5. Gwaith Lewys Glyn Cothi, cerdd 189 a'r nodiadau
  6. Gwaith Lewys Glyn Cothi, cerdd 188, llinellau 31-36