Cyfansoddwraig o Gymraes oedd Grace Mary Williams (19 Chwefror1906 – 10 Chwefror1977) a gysylltir â cherddoriaeth gerddorfaol yn bennaf. Fe'i hystyrir fel un o'r cyfansoddwyr benywaidd Cymreig mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth Cymru yn ystod yr 20g. Hi oedd y gyfansoddwraig gyntaf yng Nghymru i gyfansoddi opera a'r fenyw cyntaf o wledydd Prydain i ysgrifennu sgôr ar gyfer ffilm lawn.[1]
Ymhlith ei gweithiau cerddorfaol mwyaf nodedig y mae: Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940), Sea Sketches (1944) a Penillion (1955).
Bywyd cynnar
Cafodd ei geni yn y Barri yn ferch i i William Matthews Williams ac Rose Emily Richards Williams. Roedd ei rhieni yn athrawon ac roedd ei thad yn gerddor nodedig.[2][3] Ar ôl gadael Ysgol y Sir, Y Barri, enillodd ysgoloriaeth Morfydd Owen ac aeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Yna aeth i Goleg Brenhinol Cerddoriaeth (y Royal College of Music) yn Llundain yn 1926, ble cafodd ei dysgu gan Ralph Vaughan Williams a'i hanogodd i gofleidio cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Cymhellwyd hi i drefnu alawon gwerin gan ei chyfaill, y cyfansoddwr Benjamin Britten (1913–76) hefyd. Yn 1930 cafodd ysgoloriaeth i deithio, ac aeth i Fiena. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudwyd y myfrywyr i Grantham yn Swydd Lincoln, lle cyfansoddodd hi rhai o'i gweithiau cynharaf, gan gynnwys Sinfonia Concertante a'i symffoni gyntaf.
Gyrfa
Ar ôl dysgu yn Llundain am ychydig, daeth yn ôl i Gymru i weithio gyda’r BBC ac ar unwaith aeth ati i gyfansoddi trefniannau o alawon gwerin yn bennaf ar gyfer Adran Ysgolion y BBC, er bod ambell drefniant o alawon gwerin Cymreig yn dyddio o’r 1930au, er enghraifft Six Welsh Oxen Songs (1937). Hyd yma (2024) cafwyd hyd i 115 o drefniannau o alawon gwerin Cymreig gan Grace Williams.
Un o'i gweithiau mwyaf poblogaidd oedd Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940).
Bu'n dysgu yn y Camden School for Girls rhwng 1932 a 1946, lle bu wrthi'n addasu rhai o operâu Gilbert and Sullivan ar gyfer y myfyrwyr. Yn 1947, yn dilyn cyfnod o salwch, dychwelodd i’r Barri, lle gweithiodd fel cerddor llawrydd a bu'n dysgu yn achlysurol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Ceisiodd nawdd i gyfansoddi opera yn seiliedig ar hanes Twm o’r Nant (Thomas Edwards) neu Dic Penderyn (Richard Lewis) rai blynyddoedd cyn cyfansoddi ‘The Parlour’, ond methodd.
Yn 1949, ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm nodwedd Blue Scar, y fenyw gyntaf o wledydd Prydain i gyfansoddi ar gyfer ffilm lawn.[1] Treuliodd chwe blynedd, rhwng 1960 a 1966, yn sgwennu ei hunig opera The Parlour, a chafodd ei pherfformio[4] ar 5 Mai 1966 yn y Theatr Newydd, Caerdydd, gan y WNO a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham fel rhan o double bill gydag Il Tabarro (The Cloak) gan Puccini. Yna, teithiodd y cwmni i yn Landudno yn Awst 1966 lle recordiwyd y perfformiad ar gyfer y BBC Music Programme ac a ddarlledwyd yn Nhachwedd 1966, yr unig recordiad o’r opera sydd ar gael hyd heddiw (2024).
Grace Williams oedd y gyfansoddwraig gyntaf yng Nghymru i gyfansoddi opera. Defnyddiodd y stori fer ‘En Famille’ gan y nofelydd a’r dychanwr Ffrengig Guy de Maupassant (1850–93) fel sail ar gyfer ysgrifennu ei libreto ei hun ar gyfer ‘The Parlour’. Rhaid cofio, fodd bynnag, y cafwyd sawl opera cyn ‘The Parlour’ a oedd yn ymdrin â themâu Cymreig, er enghraifft Blodwen (Joseph Parry), Tir Na Nog (David de Lloyd) a The Black Ram (Ian Parrott),
Caiff ei chysylltu â cherddoriaeth gerddorfaol yn bennaf a'i hystyried fel un o'r cyfansoddwyr benywaidd Cymreig mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth Cymru yn ystod yr 20g[5].
Gweithiau coll
Yn 2024, cyhoeddwyd bod rhagor o waith Grace Williams wedi eu canfod mewn ystordy yn y Barri, yn sgil gwaith myfyrwraig o Brifysgol Bangor, gan gynnwys casgliad o ddeg alaw Gymreig, sy'n cynnwys 'Hun Gwenllian', 'Bwlch Llanberis' a 'Dwfn yw'r môr'.
Bywyd personol
Yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dioddefodd o iselder a phroblemau iechyd eraill.
Gwrthododd dderbyn OBE am wasanethau i gerddoriaeth yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1967.
“
Ystyriaf fy hun yn ffodus iawn o gael fy ngeni'n Gymraes.[6]
”
Bu farw yn 70 mlwydd oed yn 1977.
Neilltuodd BBC Radio 3 eu heitem Cyfansoddwr yr Wythnos iddi yn ail hanner mis Awst 2006. O ganlyniad, cafwyd nifer o berfformiadau o weithiau nas perfformiwyd, gan gynnwys ei Choncerto Fiolin.
Roedd llawer o waith Grace Williams yn clymu gyda cherddoraieth gwerin Gymreig, fel ei darn enwocaf, Fantasia on Welsh Nursery Tunes.
Dyma rhestr o’i gwaith: