Grŵp WagnerEnghraifft o: | private military company, sefydliad parafilwrol, sefydliad arfog, mudiad anghyfreithlon, mudiad terfysgol |
---|
Math | Russian irregular forces during the Russian invasion of Ukraine |
---|
Daeth i ben | 2023 |
---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Mai 2014 |
---|
Pennaeth y sefydliad | Leader of the Wagner Group |
---|
Sylfaenydd | Yevgeny Prigozhin, Dmitry Utkin |
---|
Olynydd | Redut, African Corps |
---|
Pencadlys | St Petersburg, Molkin |
---|
Enw brodorol | ЧВК «Вагнер» |
---|
Gwladwriaeth | Rwsia |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cwmni o hurfilwyr o Ffederasiwn Rwsia yw Grŵp Wagner (Rwseg: Группа Вагнера trawslythreniad: Gruppa Vagnera), yn swyddogol Cwmni Milwrol Preifat Wagner (ЧВК «Вагнер» ChVK «Vagner»). Ers 2014 mae wedi darparu gwasanaethau milwrol a diogelwch am dâl yn Wcráin, Syria, a sawl gwlad ar draws Affrica, fel rheol yn ategol i luoedd a gefnogir gan lywodraeth Rwsia. Mae union bwrpas a natur y grŵp yn ddadleuol, ac mae gwybodaeth am ei hanes a'i weithredoedd yn ddibynnol ar ffynonellau agored (OSINT) a newyddiaduraeth ymchwiliol. Mae llawer o dystiolaeth i ddangos cysylltiadau agos rhwng Grŵp Wagner a sefydliadau milwrol, gwleidyddol, a chudd-wybodaeth Rwsia. Yn ôl rhai sylwebwyr ac ysgolheigion, llu lled-filwrol a grëwyd gan luoedd arfog Rwsia at ddiben nodau strategol y llywodraeth ym Moscfa ydyw, gyda chefndir niwlog sydd yn rhoi "gwadadwyedd argyhoeddiadol" (plausible deniability) i Rwsia.
Mae amgylchiadau cychwyn y grŵp a'i hanes cynnar yn ddadleuol. Credir iddo gael ei sefydlu gan Dmitry Utkin, cyn-swyddog o Brif Gyfarwyddiaeth Cudd-wybodaeth Rwsia (GRU). Daeth hurfilwyr Wagner i sylw'r byd yn 2014 wrth iddynt gefnogi'r cyrch i gyfeddiannu'r Crimea, a chynorthwyo ymwahanwyr o blaid Rwsia yn brwydro'n erbyn lluoedd Wcráin yn y Donbas. Mae'n debyg i'r grŵp gael ei enwi ar ôl y cyfansoddwr Almaenig Richard Wagner, o bosib oherwydd hoffter Utkin am hanes yr Almaen. Yn ogystal â Rhyfel Rwsia ac Wcráin, bu presenoldeb gan Grŵp Wagner mewn rhyfeloedd cartref yn Syria, Libia, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, a Mali. Cynyddodd presenoldeb y grŵp yn Wcráin yn sylweddol yn sgil goresgyniad y wlad gan Rwsia yn Chwefror 2022, ac erbyn diwedd y flwyddyn honno amcangyfrifodd llywodraeth y Deyrnas Unedig ryw 20,000 o hurfilwyr Wagner yn Wcráin.[1] Datganodd Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau fod rhyw 80 y cant o'r rheiny wedi eu recriwtio o garchardai.[2]
Cyhuddwyd hurfilwyr o Grŵp Wagner o sawl achos o gamdriniaethau hawliau dynol a throseddau rhyfel, gan gynnwys artaith, llofruddio sifiliaid, a gosod ffrwydron tir.[3] Mae nifer o sefydliadau anllywodraethol, gwleidyddion, ymgyrchwyr, ac ysgolheigion wedi mynegi pryder am Rwsia yn defnyddio cwmnïau milwrol preifat megis Grŵp Wagner mewn ardaloedd gwrthdaro fel modd o ryfela trwy ddirprwy.
Ar 23 Mehefin 2023, wedi iddo gyhuddo milwyr Rwsiaidd o ymosod ar ei ddynion, lansiodd Prigozhin wrthryfel yn erbyn arweinyddiaeth filwrol Rwsia.[4] Symudodd unedau Grŵp Wagner o Wcráin i diriogaeth Rwsia, a chipiwyd dinas Rostov ganddynt. Bygythiodd Prigozhin ymosod ar Foscfa cyn iddo gytuno i roi'r gorau i'r gwrthryfel.[5]
Cyfeiriadau