Ynys sy'n rhan o Sweden yw Gotland; mae hefyd yn ffurfio un o daleithiau'r wlad gyda rhai ynysoedd llai o'i chwmpas. Mae gan yr ynys arwynebedd o 3,140 km sgwar, a phoblogaeth o 58,003 yn 2016.
Prifddinas yr ynys a'r dalaith yw Visby, sydd a phoblogaeth o tua 22,600. Saif yr ynys tua 90 km i'r dwyrain o dir mawr Sweden yn y Môr Baltig.