Agorwyd yr orsaf ym 1880. Mae’r orsaf yn adeilad rhestredig gradd II. Perchennog yr orsaf yw Network Rail, ond rheolir yr orsaf gan Virgin Rail. Defnyddir yr orsaf hefyd gan drenau Northern Rail. Preston yw’r orsaf prysuraf yn yr ardal tu allan o Lerpwl a Manceinion. Mae tua 5 miliwn o deithiau’n dechau o’r orsaf yn flynyddol, ac mae 1.9 miliwn o deithwyr yn newid trenau yno.[1]
Agorwyd bwffe am ddim ar gyfer milwr o morwyr ym mis Awst 1915, yn yr hyn sydd bellach yn ystafell aros. Cariwyd bwyd i’r dynion oedd yn mynd trwodd ar drenau hefyd. Gwirfoddolodd 400 o ferched i roi bwyd iddynt. Caewyd y bwffe yn Nhachwedd 1919. Bwydwyd cyfanswm o 3.5 miliwn o filwyr a morwyr.[2]