Cwmni gweithredu trenau yn y Deyrnas Unedig oedd Virgin Trains a weithredodd masnachfraint InterCity Arfordir y Gorllewin rhwng Mawrth 1997 a 8 Rhagfyr 2019. Roedd yn eiddo i Virgin Rail Group, menter ar y cyd rhwng Virgin Group (51%) a Stagecoach (49%.) Yng Nghymru, roedden nhw'n gyfrifol am drenau yn teithio o Lundain i Gaergybi. Yn Rhagfyr 2019 pasiodd y fasnachfraint i reolaeth Gwmni Avanti West Coast.
Methodd y cwmni wneud cais am y fasnachfraint newydd am fod Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan wedi gwahardd eu partner Stagecoach ym mis Ebrill 2019 oherwydd anghydfod ynghylch rhwymedigaethau pensiwn.[1]