Gorsaf reilffordd Parcffordd Glyn Ebwy (Saesneg: Ebbw Vale Parkway railway station) yw terfynfa bresennol Rheilffordd Cwm Ebwy. Agorwyd yr orsaf ar y 6 Chwefror 2008 pan ddechreuodd gwasanaethau i Gaerdydd Canolog ac yn ôl ar ôl 46 mlynedd o fod yn llinell cludo nwyddau yn unig. Mae cynlluniau'r dyfodol yn cynnwys gwasanaethau sy'n ymestyn i dref Glyn Ebwy a gwasanaeth bob awr i Gasnewydd.