Mae Gorsaf reilffordd Ormskirk yn derminws i drenau Merseyrail o Lerpwl ac i drenau Northern Rail o Breston Mae adeilad yr orsaf yn rhestredig (Gradd II).
Adeiladwyd yr orsaf gan Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn. Agorwyd yr orsaf ar 2 Ebrill 1849. Daeth yr orsaf yn rhan o Reilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog ar 13 Mai 1859, yn rhan o Reilffordd Llundain, Canolbarth a’r Alban ar 1 Ionawr 1923, a Rheilffordd Brydeinig ar 1 Ionawr 1948.
Adeiladwyd cangen rhwng Ormskirk a gorsaf reilffordd Cyffordd Rainford ym mis Mawrth 1858.