Agorwyd yr orsaf gan y Rheilffordd Llundain a Birmingham ar 20 Gorffennaf, 1837. Cynlluniwyd to'r orsaf gan Robert Stephenson. Adeiladwyd Bwa Euston, ar arddull Dorig erbyn Mai 1838. Dymchwelyd y Bwa yn ystod proses o ailadeiladu'r orsaf rhwng 1961 a 1962[2]. Mae ymgyrch i'w ailadeiladu[3]. Estynnwyd yr orsaf ym 1873 ac eto ym 1892.
Ailadeiladwyd yr orsaf yn llwyr yn rhan o drydanu'r Rheilffordd Arfordir y Gorllewin rhwng 1963 a 1968[2].