Gorsaf Reilffordd Rhuthun

Rhuthun
Lleoliad
ManRhuthun
ArdalSir Ddinbych
Cyfesurynnau53°07′01″N 3°18′28″W / 53.11688°N 3.30779°W / 53.11688; -3.30779
Yn gweithredu
Cwmni gwreiddiolRheilffordd Dinbych, Rhuthun a Chorwen
Grŵp cychwynnolGorsaf Llundain a Gogledd Orllewin
Grŵp olafRheilffordd Llundain, Canol Lloegr a'r Alban
Platfform2
Hanes
1 Mawrth 1862Agorwyd
30 Ebrill 1962Caewyd
Gorsafoedd rheilffordd wedi'u cau yng Nghymru
Gorsafoedd Rheilffyrdd caeedig yng Nghymru

Arferai Gorsaf Reilffordd Rhuthun wasanaethu tref farchnad Rhuthun, Sir Ddinbych rhwng 1862 a 1962. Dyma oedd prif ganolfan y rhan yma o'r lein (Dinbych i Gorwen).

Roedd ganddo ddwy blatfform, fel y gwelir o'r llun, bae seidin a sied nwyddau a ddefnyddid weithiau fel bae platfform.

Cyn gynted ag y dymchwelwyd yr hen orsaf, codwyd Canolfan Grefft Rhuthun yn ei le; gwelir un o'r craeniau ger y Ganolfan Grefft heddiw - yr unig ôl yr orsaf - ar wahân i leoliad 'Rhes y Rheilffordd'.

Roedd Gorsaf Rhuthun rhwng gorsafoedd Rhewl ac Euarth, ar y daith rhwng Dinbych a Chorwen. Gelwid y rhan yma o'r rheilffordd yn London and North Western Railway. Codwyd Gwersty'r Park Place ar gyfer teithwyr y rheilffordd ar ochr orllewinol y dref, ond newidiwyd cyfeiriad y lein, gan fynd drwy ochr arall y dref, yr ochr ddwyreiniol!

Cyfeiriadau

Dolennau allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: