Roedd Gogledd Cymru yn gynetholaeth Senedd Ewrop, a oedd yn cyfateb i'r rhanbarth answyddogol presennol Gogledd Cymru, o 1979 hyd at 1999. Cafodd yr etholaeth ei gynrychioli gan y Blaid Geidwadol o 1979 hyd at 1989, eu hunig sedd yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn.
Hanes
Cyn mabwysiadu ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol ym 1999, defnyddiodd y Deyrnas Unedig dull "Y Cyntaf i'r Felin" ar gyfer etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd yr etholaethau Senedd Ewropeaidd a ddefnyddid o dan y system honno'n llai na'r etholaethau cyfredol ac yn ethol un aelod yr un.
Pan gafodd ei chreu ym 1979 roedd Gogledd Cymru'n cynnwys etholaethau Seneddol Môn, Caernarfon, Conwy, Dinbych, Dwyrain y Fflint, Gorllewin y Fflint, Meirionnydd, Trefaldwyn a Wrecsam. Ym 1994 cafodd etholaethau newydd Meirionnydd Nant Conwy a Threfaldwyn eu trosglwyddo i etholaeth Canolbarth Cymru.[1]
Mae etholaethau rhanbarthol Etholiadau'r Cynulliad wedi eu seilio'n fras ar hen etholaethau Senedd Ewrop.
Daeth y sedd yn rhan o etholaeth Cymru gyfan ym 1999.
Aelodau etholiedig Ewropeaidd
Etholiadau
Canlyniad Etholiad 1979
Canlyniad Etholiad 1984
Canlyniadau etholiad 1989
Canlyniad etholiad 1994
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Etholaethau Senedd Ewrop yng Nghymru: