Am yr anheddiad Rhufeinig yng Nghymru, gweler
Gobannium.
Cymeriad mytholegol Cymreig yw Gofannon, neu Gofannon fab Dôn. Mae ei enw yn gytras â'r gair 'gof'. Credir ei fod yn ffurf ar dduw Celtaidd sy'n gysylltiedig â gwaith y gof. Mae'n un o blant y dduwies Geltaidd Dôn.
Gofannon yn y traddodiad Cymreig
Yn y chwedl Cymraeg Canol gynnar Culhwch ac Olwen mae'r cawr Ysbaddaden Bencawr yn rhoi i'r arwr Culhwch y dasg o aradu cae sydd newydd ei glirio o goed. Ar yr un pryd mae'n datgelu iddo na allai wneud hynny heb gymorth parod Gofannon: 'Gofannon fab Don i ddyfod i ben y tir i wared yr haearn; ni wna ef waith o'i fodd namyn i frenin teithiog.'
Yn Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, 'Math fab Mathonwy', mae Gofannon yn frawd i Arianrhod. Mae'n lladd Dylan Eil Don, mab Arianrhod, trwy ddamwain.
Yn y gerdd gynnar 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin', cysylltir Gofannon â brwydr Arfderydd yn yr Hen Ogledd. Dywedir iddo ymladd yn y frwydr honno â saith gwaywffon.
Ceir cyfeiriad at gaer arallfydol o'r enw 'Caer Ofannon' mewn cerdd a bridolir i'r Taliesin chwedlonol yn Llyfr Taliesin.
Crybwylla Rankine a d'Este (2007), wrth archwilio Prif Gyfarch Taliesin o Lyfr Coch Hergest, hefyd i Gofannon fod yn ddewin (neu swynwr),[1] gyda'r Prif Gyfarch yn datgan:
Cymraeg Canol:
neubum gan wyr keluydon
gan uath hen gan gouannon
gan euuyd gan elestron
ry ganhymdeith achwysson
blỽydyn ygkaer gofannō.
|
|
|
|
Credir mai o'r gair Gofannon y daw'r elfen gav yn Abergavenny (Y Fenni) a ddaeth yn ei dro o'r hen air coll Brythoneg; Gobannium oedd gair y Rhufeiniaid am y dref. Ceir tystiolaeth ei bod yn ganolfan haearn ymhell cyn hynny.
Goibniu
Y ffigwr cyfatebol yn nhraddodiad Iwerddon yw Goibniu. Mae Goibniu yn of i'r Tuatha Dé Danann (yn llythrennol: 'Plant Dôn') yn y chwedlau Gwyddeleg. Yn chwedl Brwydr Mag Tuired (Cath Maige Tuired) mae'n creu pennau gwaywffon a chleddyfau i'r arwyr.
Ymddengys fod Goibniu a Gofannon yn eu tro yn cyfateb i'r duw Gobannus yng Ngâl.
Llyfryddiaeth
- A. O. H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1952)
- Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 1998)
- d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages. Avalonia.
- Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1951)
Cyfeiriadau