Roedd Glyn Ebwy yn etholaeth Seneddol a oedd yn ethol un aelod i Dŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig. Cafodd ei greu ar gyfer etholiad cyffredinol 1918 a'i ddiddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1983; aeth y rhan fwyaf o etholaeth Glyn Ebwy i etholaeth newydd Blaenau Gwent
Thomas Richards, Llafur oedd AS gyntaf Glyn Ebwy, fe etholwyd ef yn ddiwrthwynebiad ym 1918. Fe ymddiswyddodd o'r Senedd ym 1920 ac fe'i olynwyd yn ddiwrthwynebiad gan Evan Davies ar ran y Blaid Lafur mewn isetholiad a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 1920.