Un o'r taleithiau sy'n ffurfio Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Gipuzkoa (Basgeg: Gipuzkoa, Sbaeneg: Guipúzcoa). Saif ar yr arfordir, a ger y ffin â Ffrainc.
Hi yw'r leiaf o daleithiau Sbaen o ran arwynebedd, 1980 km2, ac mae'r boblogaeth yn 682,977 (2002). Y brifddinas yw Donostia (San Sebastián), tra mae trefi pwysig yn cynnwys Irun, Errenteria, Zarautz, Arrasate, Oñati, Eibar, Tolosa, Beasain, Pasaia a Hondarribia. Gelwir y dafodiaith leol o'r iaith Fasgeg yn Gipuzkera. Nawdd sant y dalaith yw Ignatius o Loyola, a aned ger Loyola yn nhref Azpeitia.
Dolenni allanol