Beirniad llenyddol, ieithegwr, dramodydd, a bardd Eidalaidd oedd Gian Giorgio Trissino (8 Gorffennaf 1478 – 8 Rhagfyr 1550).
Ganed ef yn Vicenza, Gweriniaeth Fenis, i deulu cefnog. Teithiodd yn fynych ar draws yr Eidal, ac astudiodd yr iaith Roeg ym Milan ym 1506 ac athroniaeth yn Ferrara ym 1512. Daeth yn gyfeillgar â chylch Niccolò Machiavelli yn Fflorens cyn iddo ymsefydlu yn Rhufain ym 1514, ac yno adnabyddai'r beirniad ac ysgolhaig Pietro Bembo a'r dramodydd Giovanni di Bernardo Rucellai.[1] Gwasanaethai'r pabau Leo X a Clement VII, a chynrychiolodd Daleithiau'r Babaeth ar sawl cenhadaeth ddiplomyddol.[2] Cynigodd Trissino addysg yn ei academi i saer maen ifanc o'r enw Andrea di Pietro della Gondola, ac aethant ar ddwy daith i Rufain a gâi ddylanwad mawr ar ei ddatblygiad yn bensaer; Trissino a rodd iddo'r enw Palladio. Bu farw Gian Giorgio Trissino yn Rhufain yn 72 oed.[1]
Prif gyfraniad Trissino i lenyddiaeth y Dadeni oedd adfywio'r ddrama Eidaleg ar batrwm y ddrama Hen Roeg, trwy gyfrwng ei drasiedi ddiodl Sofonisba (ysgrifennwyd 1514–15, cyhoeddwyd 1524, perfformiwyd 1562). Ysgrifennodd yr honno ar sail hanes Lifi o Ryfeloedd Carthago, gyda thechnegau'r dramodwyr Groegaidd Soffocles ac Ewripides, gan gynnwys defnydd corawdau i wahanu episodau'r stori. Esiampl o ddyneiddiaeth y Dadeni ydyw, am iddi hepgor themâu crefyddol a didactigiaeth, ac yn wahanol i ddramâu Eidaleg eraill y cyfnod mae'n tynnu ar y theatr Roeg ac egwyddorion barddonol Aristotelaidd yn hytrach na dramâu Lladin Seneca'r Ieuaf.[2] Sofonisba oedd y ddrama Eidaleg gyntaf ar fydr moel, a chyfansoddodd Trissino hefyd y pryddestau Eidaleg cyntaf ar batrymau barddoniaeth delynegol y Groegwr Pindar a'r Rhufeiniwr Horas. Mae ei arwrgerdd La Italia liberata da' Gotthi (27 llyfr; 1547–48) yn traethu gorchfygiad yr Eidal gan y Cadfridog Belisarius, ar orchymyn yr Ymerawdwr Bysantaidd Iwstinian, yn y 6g, ar fesur moel gydag arddull Homeraidd. Ysgrifennodd hefyd gomedi ar gân, I simillimi (cyhoeddwyd 1548), ar sail Menaechmi gan Plautus a chyda strwythur yn null Aristoffanes.
Lluniodd Trissino ei ddamcaniaeth lenyddol yn ei draethawd La poetica (1529), gan ddefnyddio esiamplau o farddoniaeth Eidaleg i eglurebu ei ddadleuon. Mae ei weithiau beirniadol ac ieithyddol eraill yn cynnwys yr Epistola (1524), llythyr i Clement VII ar bwnc diwygio sillafu; a'r traethodau gramadegol Grammatichetta a Dubbii grammaticali (1529).
Cyfeiriadau