Gwleidydd Almaenig yw Gerhard Fritz Kurt Schröder (ganwyd 7 Ebrill1944). Ef oedd canghellor yr Almaen o 1998 hyd at Dachwedd 2005. Mae'n aelod o'r SPD, Plaid Democratiaid Cymdeithasol y wlad, sydd i'r chwith o'r canol. Pan yn ganghellor, roedd yn bennaeth ar glymblaid rhwng yr SPD a Phlaid Werdd yr Almaen.