Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Father of the House, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Shadow Secretary of State for Environment, Food and Rural Affairs, beirniad Gwobr Booker
Gwleidydd Llafur Prydeinig oedd Syr Gerald Bernard Kaufman (21 Mehefin1930 – 26 Chwefror2017) a wasanaethodd fel Aelod Seneddol (AS) o 1970 hyd ei farwolaeth yn 2017, yn gyntaf ar gyfer Manceinion Ardwick ac yna ar gyfer Manceinion Gorton. Roedd yn weinidog yn y llywodraeth yn y 1970au ac aelod o'r Cabinet Cysgodol yn y 1980au. Daeth yn Dad y Tŷ ar ôl ymddeoliad Peter Tapsell yn 2015. Ar adeg ei farwolaeth, fe oedd yr AS hynaf yn eistedd yn Senedd y DU.
Bywgraffiad
Ganed Kaufman yn Leeds, y ieuengaf o saith o blant i Louis a Jane Kaufman. Roedd ei rieni yn Iddewon a ddaeth o wlad Pwyl cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Leeds, a graddiodd gyda gradd mewn athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg o Brifysgol Rhydychen (Coleg y Frenhines). Yn ystod ei amser yno, roedd yn Ysgrifennydd Clwb Llafur, lle ataliodd Rupert Murdoch rhag sefyll ar gyfer y swydd oherwydd ei fod wedi torri rheolau y Gymdeithas yn erbyn canfasio.[1]
Roedd yn ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol y Cymdeithas y Ffabiaid (1954-55), awdur ar y Daily Mirror (1955-64) ac yn newyddiadurwr ar y New Statesman (1964-65). Roedd yn Swyddog Cyswllt Seneddol i'r Wasg ar gyfer y Blaid Lafur (1965-70) ac yn y pen draw daeth yn aelod o "gabinet cegin" anffurfiol Prif WeinidogHarold Wilson.[2]
Daeth yn awdur, a chyfrannodd at rhaglen gomedi dychan y BBC That Was The Week That Was yn 1962 a 1963,[3][4] lle y cofir fwyaf am y sgets "dynion tawel San Steffan". Ymddangosodd fel gwestai ar ei olynydd, Not So Much a Programme, More a Way of Life.
Ar 26 Chwefror 2017, cyhoeddwyd bod Kaufman wedi marw.[6]
Aelod o'r Senedd
Etholwyd Kaufman yn AS ar gyfer Manceinion Ardwick yn etholiad cyffredinol 1970; newidiodd etholaeth i Manchester Gorton yn etholiad 1983, yn dilyn y newidiadau mawr yn y ffiniau seneddol y flwyddyn honno. Parhaodd fel AS ar gyfer Gorton hyd ei farwolaeth.[7] Roedd yn weinidog iau drwy gydol y cyfnod yr oedd Llafur mewn grym rhwng 1974 a 1979, yn gyntaf yn yr Adran Amgylchedd (1974-75) o dan Anthony Crosland, ac yna yn yr Adran Ddiwydiant o dan Eric Varley (y Gweinidog Gwladol, 1975-79). Gwnaed ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1978. Ar ôl ei hail-ethol i Dŷ'r Cyffredin yn 2015, yn union cyn ei 85 pen-blwydd, daeth yn Dad y Tŷ.[8]
Cabinet Cysgodol
Yn yr wrthblaid, roedd Kaufman yn Ysgrifennydd yr Amgylchedd Cysgodol (1980-83), Ysgrifennydd Cartref Cysgodol (1983-87) ac Ysgrifennydd Tramor Cysgodol (1987-92). Fe alwodd maniffesto adain-chwith y Blaid Lafur ar gyfer etholiad 1983 "y nodyn hunanladdiad hiraf mewn hanes".[9] Yn 1992 aeth i'r meinciau cefn a daeth yn Gadeirydd ar yr hyn oedd ar y pryd yn Bwyllgor Dethol ar Dreftadaeth Genedlaethol.[10]
Ôl-feinciwr dylanwadol
Bu'n gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar gyfer Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gynt y Pwyllgor Dethol ar Dreftadaeth Genedlaethol (1992-2005), ac yn aelod o Bwyllgor Seneddol y Blaid Lafur Seneddol (1980-92), Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur (1991-92), ac o'r Comisiwn Brenhinol ar Ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi (1999). Yn 1997, beirniadodd Kaufman Prif Weithredwr u Tŷ Opera Brenhinol ar y pryd, Mary Allen, dros honiadau o gamymddwyn ariannol, a arweiniodd yn y pen draw at ei ymddiswyddiad.[11]
Pleidleisiodd Kaufman ddwywaith yn erbyn Chwip y blaid Lafur – y tro cyntaf ar y ddarpariaeth yn y Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 i gyflwyno gofyniad ychwanegol [12] yn y broses ar gyfer erlynyddion preifat sy'n ceisio gael gwarant i arestio am droseddau "awdurdodaeth fyd-eang" fel troseddau rhyfel, artaith a throseddau yn erbyn dynoliaeth; ac yr ail dro yn erbyn y Bil Diwygio Lles 2015.[13] Pleidleisiodd gyda'r llywodraeth ar yr ymosodiad ar Irac yn 2003 gan ddweud yn y Senedd "Even though all our hearts are heavy, I have no doubt that it is right to vote with the Government tonight".[14]
Cafodd ei urddo'n farchog am wasanaethau i'r Senedd yn Anrhydeddau Pen-Blwydd y Frenhines 2004 .[15]
Ar 25 Mai 2010, yn ystod dadl Araith y Frenhines, cyhuddodd Kaufman ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei etholaeth yn ystod etholiad 2010, Qassim Afzal, o redeg "ymgyrch etholiadol gwrth-Semitaidd, ac yn bersonol wrth-Semitaidd" ym Manceinion Gorton.[16]
↑"Members of the Committee". The Daily Telegraph. 14 January 2003. Cyrchwyd 27 February 2017. More than one of |work= a |newspaper= specified (help)
↑"Last act at the Royal Opera?". The Daily Telegraph. 28 March 1998. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-27. Cyrchwyd 27 February 2017. More than one of |work= a |newspaper= specified (help)
↑Mason, Rowena (3 Tachwedd 2015). "Gerald Kaufman's 'Jewish money' remarks condemned by Corbyn". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 October 2016. Cyrchwyd 1 October 2016. On Tuesday, Corbyn released a statement saying Kaufman's remarks were "completely unacceptable and deeply regrettable". "Such remarks are damaging to community relations, and also do nothing to benefit the Palestinian cause," he said. "I have always implacably opposed all forms of racism, antisemitism and Islamophobia and will continue to do so. At my request, the chief whip has met Sir Gerald and expressed my deep concern."Unknown parameter |deadurl= ignored (help)