Roedd George Essex Evans (18 Mehefin, 1863 –10 Tachwedd, 1909) yn Gymro a daeth y un o feirdd mwyaf poblogaidd Awstralia ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20g.[1]
Cefndir
Ganwyd Evans yn Llundain yn fab i John Evans QC cyn Aelod SeneddolRhyddfrydolHwlffordd rhwng 1847 a 1852 [2] a Mary Ann merch Titus Owen ei ail wraig. Roedd ei dad yn 68 mlwydd oed pan ganwyd George a bu farw ym mis Hydref 1864 pan oedd George yn 1. Symudodd y teulu yn ôl i Sir Benfro a fu George yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hwlffordd. Symudodd y teulu i Ynys Jersey lle fu George yn ddisgybl yng Ngholeg St James.[1]
Gyrfa
Bwriad Evans oedd ymuno a'r fyddin wedi gadael yr ysgol ond dechreuodd mynd yn drwm ei glyw a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r syniad. Gyda ffortiwn y teulu yn dirywio penderfynodd Evans, John ei hanner frawd a'i ddwy hanner chwaer ymfudo i Queensland, Awstralia.
Cafodd y brodyr fferm yn Allora ar y Darling Downs ond anafwyd George mewn damwain farchogaeth a bu’n gweithio fel athro a gohebydd amaethyddol i’r Queenslander.[3] Ym 1883 ymunodd ag alldaith arolygu i wlad y Gwlff, yna ailgydiodd yn ffermio cyn ymuno â'r gwasanaethau cyhoeddus ym 1888 fel beili yn yr Adran Tiroedd. Roedd yn glerc yn y Swyddfa Batentau rhwng 1891-93, yna daeth yn gofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau yn Toowoomba.[4]
Bardd a Llenor
Wedi dechrau ei yrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus dechreuodd cyhoeddi cerddi yng nghylchgronau Awstralia a Phrydain. Ym 1892 a 1883 golygodd cylchgrawn llenyddol o'r enw The Antipodean ar y cyd a Banjo Paterson, er i'r cylchgrawn gwerthu dros 13 mil o rifau nid oedd yn llwyddiant ariannol. Ceisiodd adfer y cylchgrawn ym 1897 ond methiant fu eto. Rhwng 1902 a 1905 bu'n colofnydd rheolaidd ar gyfer y Darling Downs Gazette a'r Toowoomba Chronicle. Ym 1905 cyhoeddodd papur newydd wythnosol ei hun Rag a barodd am flwyddyn yn unig.
Ym 1891 cyhoeddwyd ei gyfrol barddoniaeth yn Llundain The Repentance of Magdalene Despar and Other Poems.[5] Cyhoeddodd ei ail gyfrol Loraine and Other Verses ym 1898 a The Secret Key and Other Verses ym 1906. Ym 1928 cyhoeddwyd blodeugerdd o'i waith ar ôl ei farwolaeth.[6]
Roedd llawer o ganeuon Evans yn rhai gwladgarol oedd yn canu clodydd Awstralia. Er bod rhai beirniaid fel A. G. Stephens yn cwyno bod ei ganu yn or- syml ac ystrydebol roedd yn boblogaidd ymysg y cyhoedd a bu rhai yn priodoli ei ganu i ran o lwyddiant yr ymgyrch i ffurfio Ffederasiwn Awstralia. Wedi ei farwolaeth dywedodd Alfred Deakin (ei hun o dras Gymreig), Prif Weinidog Awstralia, mae Evans oedd "Bardd Cenedlaethol Awstralia".[1]
Teulu
Priododd Evans ym 1899, ei wraig oedd Blanch Hopkins (Eglinton cynt) gwraig weddw gyda dau o blant. Bu iddynt un mab.[3]
Marwolaeth
Bu farw yn Toowoomba o gymhlethdodau a gododd wedi llawdriniaeth am gerrig fustl yn 46 mlwydd oed. Codwyd cofgolofn i'w anrhydeddu yn Toowoomba a chynhelir darlith coffa flynyddol iddo yn y dref.[7] Cyhoeddwyd cyfrol goffa iddo ym 1913 gan H. A. Tardent, The life and poetry of George Essex Evans oedd yn seiliedig ar ei draethawd buddugol am y bardd yn Eisteddfod Brisbane yn gynharach yn y flwyddyn. Mae copi o'r llyfr ar gael i'w ddarllen, heb dal, ar wefan TroveLlyfrgell Genedlaethol Awstralia.[8]
Clawr ei fywgraffiad
Cofeb yn Toowoomba
Ei gadair yn Llyfrgell Toowoomba
Llyfryddiaeth
The Repentance of Magdalene Despar and Other Poems, 1891[9]
↑Christopher Lee Monumental Authority and Regional Identity: The Municipal Canonisation of George Essex Evans. Proceedings: Association for the Study of Australian Literature, Sixteenth Annual Conference 3-8 July 1994 Canberra ADFA 1995 tud. 93-99