Nam ar y clyw

Mae nam ar y clyw, neu fod yn drwm o glyw, yn anallu clywedol rhannol neu lwyr. Gall nam ar y clyw fod yn bresennol adeg genedigaeth [1] neu ei gaffael ar unrhyw adeg wedi hynny. Gall nam ar y clyw ddigwydd mewn un glust neu'r ddwy. Mewn plant, gall problemau clyw effeithio ar y gallu i ddysgu iaith lafar, ac mewn oedolion gall greu anawsterau gyda rhyngweithio cymdeithasol ac yn y gwaith. Gall nam ar y clyw fod dros dro neu'n barhaol. Mae nam ar y clyw sy'n gysylltiedig ag oedran fel arfer yn effeithio ar y ddwy glust ac mae'n ganlyniad i golli celloedd gwallt y cochlea. Mewn rhai pobl, yn enwedig pobl hŷn, gall nam ar y clyw arwain at unigrwydd. Defnyddir y term byddar ar gyfer y sawl sydd heb lawer o glyw neu sydd a dim clyw o gwbl.[2]

Pethau sy'n achosi nam ar y clyw

Gall nam ar y clyw gael ei achosi gan nifer o ffactorau, gan gynnwys: geneteg, heneiddio, dod i gysylltiad â sŵn, rhai heintiau, cymhlethdodau geni, trawma i'r glust, a rhai meddyginiaethau neu docsinau. Cyflwr cyffredin sy'n arwain at golli clyw yw heintiau cronig ar y glust. Gall rhai heintiau yn ystod beichiogrwydd, fel cytomegalofirws, syffilis a rwbela, hefyd achosi nam ar glyw plentyn. Gwneir diagnosis o golled clyw pan fydd profion clyw yn canfod nad yw person yn gallu clywed 25 desibel mewn o leiaf un glust. Argymhellir profi am glyw gwael ar gyfer pob baban newydd-anedig. Gellir categoreiddio colled clyw fel ysgafn (25 i 40 dB), cymedrol (41 i 55 dB), cymedrol i ddifrifol (56 i 70 dB), difrifol (71 i 90 dB), neu ddwys (mwy na 90 dB). Mae tri phrif fath o golled clyw: colled clyw dargludol, colled clyw synhwyraidd, a cholled clyw cymysg.

Gellir atal tua hanner y golled clyw yn fyd-eang trwy fesurau iechyd cyhoeddus. Mae arferion o'r fath yn cynnwys imiwneiddio, gofal priodol o amgylch beichiogrwydd, osgoi sŵn uchel, ac osgoi rhai meddyginiaethau. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod pobl ifanc yn cyfyngu amlygiad i synau uchel a defnyddio chwaraewyr sain bersonol i awr y dydd mewn ymdrech i gyfyngu ar amlygiad i sŵn. Mae adnabod colled clyw a chynnig cefnogaeth gynnar yn arbennig o bwysig mewn plant.

Epidemioleg

Mae nam ar y clyw yn effeithio ar oddeutu 1 biliwn o bobl i ryw raddau. Mae'n achosi anabledd mewn tua 466 miliwn o bobl (5% o'r boblogaeth fyd-eang), ac anabledd cymedrol i ddifrifol mewn 124 miliwn o bobl. O'r rhai ag anabledd cymedrol i ddifrifol mae 108 miliwn yn byw mewn gwledydd incwm isel a chanolig. O'r rhai â cholled clyw, dechreuodd yn ystod plentyndod i 65 miliwn.[3]

Pethau sy'n helpu pobl gyda nam ar y clyw

Cymorth clyw digidol
  • Cymorth clyw, sy'n helpu person gyda nam ar y clyw i glywed synau.
  • Mewnblaniad cochlear [4]
  • Iaith arwyddion, iaith sy'n caniatáu i berson byddar gael sgwrs â rhywun arall.
  • Ci clywed, ci sydd wedi'i hyfforddi i glywed synau a helpu person byddar.

Gweler hefyd

Rhybudd Cyngor Meddygol


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Cyfeiriadau

  1. Cymru, Sgrinio Clyw Babanod. "Sgrinio Clyw Babanod Cymru - Mae colled ar glyw eich babi". www.wales.nhs.uk. Cyrchwyd 2020-09-05.
  2. "Hearing loss". nhs.uk. 2017-10-20. Cyrchwyd 2020-09-05.
  3. "Deafness and hearing loss". www.who.int. Cyrchwyd 2020-09-05.
  4. "Mewnblaniadau cochlear i blant ac oedolion â byddardod difrifol neu fyddardod llwyr". N I C E. 7 Mawrth 2019. Cyrchwyd 5 Medi 2020.