Gabès (talaith)
Talaith yn ne Tiwnisia yw talaith Gabès. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Canoldir ar Gwlff Gabs. Ei phrifddinas yw Gabès. Dominyddir y dalaith gan wastadedd Arad ger yr arfordir, lle ceir tir ffrwythlon a sawl gwerddon, ond mae'r tir yn troi'n fwy anial wrth fynd i gyfeiriad y de a'r gorllewin, lle mae'r anialwch yn dechrau. Dinas Gabès yw prif ganolfan y dalaith. Mae'n ddinas ddiwydiannol ac yn gartref i safle petrogemegol mawr. Nodweddir y bryniau isel ar odre'r anialwch gan sawl tref a phentref bychan, yn cynnwys Matmata gyda'i chartrefi ogofaol wedi'u creu yn y graig. Dinasoedd a threfi
Information related to Gabès (talaith) |