Frank Mills
|
Mills yng nghrys Cymru (1895)
|
Enw llawn
|
Frank Matthew Mills
|
Dyddiad geni
|
(1873-03-18)18 Mawrth 1873
|
Man geni
|
Aberpennar
|
Dyddiad marw
|
18 Chwefror 1925(1925-02-18) (51 oed)
|
Lle marw
|
Porthcawl,
|
Taldra
|
6'
|
Pwysau
|
13 st +
|
Gwaith
|
Ymgymerwr angladdau
|
Gyrfa rygbi'r undeb
|
Gyrfa'n chwarae
|
Safle
|
Rheng flaen
|
Clybiau amatur
|
Blynyddoedd
|
Clwb / timau
|
?-1892 1892–1894 1894–1897
|
Aberpennar Abertawe Caerdydd Sir Forgannwg
|
Timau cenedlaethol
|
Blynydd.
|
Clybiau
|
Capiau
|
|
1892–1896
|
Cymru
|
13
|
(0)
|
Roedd Frank Matthew Mills (18 Mawrth 1873 - 18 Chwefror 1925) [1] yn flaenwr rygbi a chwaraeodd rygbi clwb i Gaerdydd ac Abertawe ac a enillodd 13 cap i Gymru. Roedd yn un o garfan Cymru a enillodd y Goron Driphlyg a'r bencampwriaeth i Gymru am y tro cyntaf ym 1893.
Bywyd personol
Ganwyd Mills yn Aberpennar, yn blentyn i William Mills, cigydd, a Mary Ann (née Cavill) ei wraig, fe'i haddysgwyd yn..... Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel ymgymerydd angladdau. Ym 1898 priododd â Sarah Ann John. Bu iddynt ddwy ferch.
Bu farw ym Mhorthcawl yn 51 oed.
Gyrfa rygbi
Er bod Mills wedi chwarae i Aberpennar yn wreiddiol,[2] daeth i'r amlwg fel chwaraewr rygbi pan gynrychiolodd y clwb dosbarth cyntaf Abertawe,[3] yr ymunodd ag ef ym 1892. Yn ystod ei dymor cyntaf yn Abertawe cafodd ei ddewis i chware i Gymru am y tro cyntaf gan ymuno a'r pac gyda'i gyd gapiau newydd, Wallace Watts ac Arthur Boucher.[4] Er bod Watts a Boucher yn chwarae i Gasnewydd, byddai gyrfa ryngwladol Mills yn adlewyrchu eu rhai hwy gan chwarae 11 gêm gyda Boucher a 12 gyda Watts.
Roedd ei ymgyrch gyntaf gyda Chymru yn un wael i'r wlad. Chwaraeodd Mills ym mhob un o dair gêm Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1892, a chollodd Cymru bob un ohonynt. Er gwaethaf hyn, cadwodd y detholwyr ffydd gyda'r tîm ac yn arbennig y blaenwyr, a dalodd ar ei ganfed y tymor olynol, pan enillodd Cymru, dan gapteiniaeth Arthur Gould y Goron Driphlyg am y tro cyntaf yn eu hanes. Chwaraeodd Mills ym mhob un o'r tair gêm, mewn pac a gafodd ei gydnabod am ei bwysau, ei gryfder a'i dactegau sgrymio.
Ail-ddewiswyd Mills ar gyfer Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1894, ond arweiniodd cymysgedd o gyflyrau maes chwarae gwael ac ymladd mewnol ymysg aelodau carfan Cymru at ddwy golled a dim ond un fuddugoliaeth. Ar ddiwedd tymor 1894, nodir bod Mills wedi chwarae o leiaf un gêm i Forgannwg, ochr yn ochr â'i gyd aelod o dîm Abertawe, Billy Bancroft.[5] Y tymor nesaf roedd Mills wedi newid clybiau o Abertawe i Gaerdydd, ond wedi cadw ei safle yng ngharfan Cymru. Trwy chwarae ym mhob un o dair gêm Pencampwriaeth 1895 roedd Mills wedi cynrychioli Cymru mewn 12 gêm ryngwladol yn olynol, a’i gêm olaf i Gymru oedd gêm agoriadol twrnamaint 1896, a welodd Lloegr yn rhedeg saith cais heibio Cymry heb ateb. Collodd dewiswyr Cymru ffydd yn y pac, gan ddod â phum cap newydd i mewn ar gyfer y gêm nesaf. Roedd Mills yn un o'r chwaraewyr a ddisodlwyd ni chafodd cynrychioli Cymru eto.
Gemau rhyngwladol
Cymru [6]
- Lloegr 1892,[7] 1893,[8] 1894,[9] 1895,[10] 1896[11]
- Iwerddon 1892,[12] 1893,[13], 1894,[14] 1895[15]
- yr Alban 1892,[16] 1893,[17] 1894,[18] 1895,[19] 1896[20]
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau