Pobl yn byw ger arfordir de-ddwyreiniol y Môr Canoldir, yn yr hyn sydd nawr yn Israel a Llain Gaza, oedd y Ffilistiaid, weithiau Philistiaid (Hebraeg: פְלִשְׁתִּים, felištīm, Arabeg: بليستوسين bilīstūsiyyīn). Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Hebron hyd Gaza yn y cyfnod Beiblaidd. Rhoddasant eu henw i wlad Palesteina.
Ymddengys mai mewnfudwyr i'r ardal yma oedd y Ffilistiaid, ond mae'n ansicr o ble y daethant; cred rhai eu bod wedi dod o arfordir Môr Aegaea yn y 12fed a'r 13g CC.. Efallai fod cysylltiad rhyngddynt a'r bobl a elwid gan yr Hen Eifftiaid yn Bobloedd y Môr, a ymosododd ar yr Aifft yng nghyfnod y brenin Ramesses III. Ymddengys nad oeddynt yn bobl Semitaidd. Roedd ganddynt bum dinas-wladwriaeth, Ashdod, Ashkelon, Gath, Azoto a Gaza. Eu duwiau oedd Dagon a Baal.
Yn y Beibl, fe'i disgrifir fel pobl ryfelgar, a gelynion i'r Israeliaid. Ymhlith y Ffilistiaid enwocaf yn y Beibl roedd y cawr Goliath, a laddwyd gan Dafydd, a Deleila, a hudodd Samson gan alluofi ei chydwladwyr i'w gymeryd yn garcharor.