Ferdinand Marcos |
---|
Ferdinand Marcos yn cael ei urddo'n arlywydd am ei ail dymor (30 Rhagfyr 1969) |
Ganwyd | 11 Medi 1917 Sarrat |
---|
Bu farw | 28 Medi 1989 Honolulu |
---|
Dinasyddiaeth | y Philipinau |
---|
Alma mater | - University of the Philippines College of Law
- Prifysgol y Philipinau
|
---|
Galwedigaeth | gwleidydd, entrepreneur, cyfreithiwr, person milwrol, unben |
---|
Swydd | Arlywydd y Philipinau, Prime Minister of the Philippines, Ysgrifennydd Cenedlaethol dros Amddiffyn, President of the Senate of the Philippines, Aelod o Dŷ Cynrychiolwyr y Philipinau, Aelod o Senedd y Philipinau |
---|
Plaid Wleidyddol | Nacionalista Party, Kilusang Bagong Lipunan |
---|
Tad | Mariano Marcos |
---|
Mam | Josefa Edralin Marcos |
---|
Priod | Imelda Marcos |
---|
Plant | Imee Marcos, Bongbong Marcos, Irene Marcos-Araneta, Aimee Marcos |
---|
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen, Urdd Sikatuna, Urdd Rajamitrabhorn, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Order of al-Hussein bin Ali, Seren Gweriniaeth Indonesia, Urdd Seren y Cyhydedd, Darjah Utama Temasek, Cross pro Merito Melitensi, Star of the Socialist Republic of Romania, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Grand Cross of the Order of the Legion of Honour (Philippines), Urdd Brenhines Sheba |
---|
llofnod |
---|
|
Gwleidydd a chyfreithiwr Philipinaidd oedd Ferdinand Emmanuel Edralin Marcos Sr. (11 Medi 1917 – 28 Medi 1989) a wasanaethodd yn Arlywydd y Philipinau o 1965 i 1986. Cyhoeddodd reolaeth filwrol ym 1972 ac atgyfnerthodd ei rym gan ormesu unrhyw wrthwynebiad iddo a datgan llywodraeth ar sail "awdurdodaeth gyfansoddiadol". Yr oedd ei arlywyddiaeth yn ddrwg-enwog am lygredigaeth, gormodedd, a chreulondeb. Parhaodd yn unben hyd yn oed wedi diwedd rheolaeth filwrol ym 1981, nes iddo gael ei ddymchwel a'i yrru'n alltud yn sgil chwyldro poblogaidd ym 1986.
Ganed ef yn fab i'r gwleidydd Mariano Marcos (1897–1945) a'i wraig Josefa Edralin (1893–1988) yn Sarrat yn nhalaith Ilocos Norte, ar ynys Luzon, yn y cyfnod pan oedd y Philipinau dan reolaeth Unol Daleithiau America. Aeth i'r ysgol yn y brifddinas Manila, ac astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol y Philipinau. Yn Nhachwedd 1939, fe'i cafwyd yn euog o lofruddio un o wrthwynebwyr gwleidyddol ei dad, Julio Nalundasan, ym 1935, a chafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Yn Hydref 1940, diddymwyd yr euogfarn gan Oruchaf Lys y Philipinau. Yn y brifysgol cafodd Marcos ei hyfforddi gan gorfflu swyddogion wrth gefn Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau yn y Philipinau (USAFIP), a gwasanaethodd yn 3ydd lefftenant yn ystod goresgyniad yr ynysoedd gan Japan yn Rhagfyr 1941. Ildiodd yr Americanwyr a'r Philipiniaid yn Ebrill 1942, a charcharor rhyfel oedd Marcos nes i'r Japaneaid ei ryddhau yn Awst. Ailymunodd ag USAFIP yn niwedd 1944 wedi i'r Americanwyr ddychwelyd i ailgipio'r ynysoedd, a dyrchafwyd yn uwchgapten erbyn iddo gael ei ddadfyddino ym Mai 1945. Wedi diwedd y rhyfel, honnai Marcos ymladd gyda'r herwfilwyr yn ystod meddiannaeth y Philipinau gan y Japaneaid, ac arwain llu o 9000 yng ngogledd Luzon, ond dadbrofir hynny gan archifau'r Unol Daeithiau.
Ymaelododd Marcos â'r Blaid Ryddfrydol a gweithiodd o 1946 i 1947 yn gynorthwywr technegol i Manuel Roxas, arlywydd cyntaf y weriniaeth annibynnol. Cynrychiolodd Marcos ail etholaeth Ilocos Norte yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr o 1949 i 1959. Etholwyd yn seneddwr ym 1959, a gwasanaethodd yn llywydd y senedd o 1963 hyd at ddiwedd ei dymor ym 1965. Wedi iddo beidio â chael ei enwebu gan y Blaid Ryddfrydol, ymgyrchodd Marcos yn etholiad arlywyddol 1965 fel ymgeisydd y Blaid Genedlaetholgar. Ar 9 Tachwedd, bu Marcos yn drech na'r Arlywydd Rhyddfrydol Diosdado Macapagal, gan ennill 52 y cant o'r bleidlais, a fe'i urddwyd yn arlywydd ar 30 Rhagfyr 1965. Cychwynnodd fel arweinydd digon poblogaidd, a chafwyd gwelliant ym meysydd amaeth, diwydiant, ac addyg yn ystod ei dymor cyntaf. Ym 1969, Marcos oedd arlywydd cyntaf y Philipinau i gael ei ail-ethol. Fodd bynnag, cynyddodd y gwrthwynebiad iddo, a lledaenodd gwrthdystiadau gan fyfyrwyr ar draws y wlad. Yn ogystal, sbardunwyd terfysgoedd a chyrchoedd milwriaethus yn erbyn y llywodraeth, gan gynnwys Gwrthryfel y Moro ac ymosodiadau gan Blaid Gomiwnyddol y Philipinau.
Cyhoeddodd Marcos reolaeth filwrol ar 21 Medi 1972, gan fynnu bod angen gwastrodi'r comiwnyddion a chwyldroadwyr eraill. Cafodd nifer o wleidyddion eu harestio, gan gynnwys Benigno Aquino, Jr. a gâi ei garcharu am wyth mlynedd. Hawliodd Marcos rymoedd arbennig a goruchaf, gan gynnwys y gallu i anwybyddu habeas corpus, a defnyddiodd y lluoedd arfog i orfodi ei orchmynion. Ym 1978, sefydlwyd Mudiad y Gymdeithas Newydd i uno'r holl fân-bleidiau a oedd yn cefnogi Marcos. Daeth rheolaeth filwrol i ben yn Ionawr 1981, ond parhaodd Marcos yn unben ar lywodraeth awdurdodaidd, gan hawlio sawl cyfiawnhâd cyfansoddiadol. Cynhaliwyd etholiad arlywyddol ym Mehefin 1981 i'w ethol am drydydd tymor, fel ymgeisydd Mudiad y Gymdeithas Newydd. Cafodd yr etholiad ei foicotio gan bob wrthblaid ond un, ac enillodd Marcos felly fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn yr unig ymgeisydd arall, Alejo Santos o'r Blaid Genedlaetholgar.
Daeth ei wraig, Imelda Marcos, yn hynod o ddylanwadol a phwerus yn y cyfnod o reolaeth filwrol, a chyfeirir at lywodraeth Marcos weithiau fel "unbennaeth gydweddog". Penodwyd perthnasau a chyfeillion y pâr i swyddi llywodraethol a diwydiannol pwysig a phroffidiol, a bu llygredigaeth wleidyddol a lladrata o goffrau'r wlad yn rhemp. Dirywiodd yr economi, cynyddodd yr anghydraddoldeb rhwng y cyfoethog a'r tlawd, a thyfodd y gwrthryfel comiwnyddol yn yr ardaloedd gwledig.
Dychwelodd Benigno Aquino i Manila ar 21 Awst 1983, ac yno fe'i saethwyd yn farw ar darmac y maes awyr. Tybiwyd taw'r llywodraeth oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth, a sbardunwyd protestiadau mawr. Apwyntiwyd comisiwn annibynnol gan Marcos i archwilio'r achos, a ddatganai ym 1984 taw uwch-swyddogion y fyddin oedd yn gyfrifol am ladd Aquino. Mewn ymgais i ailfynnu ei rym yng ngolwg y bobl, galwodd etholiad arall, ac ar 7 Chwefror 1986 cyhoeddwyd yr oedd Marcos yn drech na'r brif ymgeisydd, Corazon Aquino, gweddw Benigno Aquino. Y gred gyffredin oedd y byddai Aquino wedi ennill oni bai am dwyll etholiadol ar raddfa eang gan gefnogwyr Marcos. Gwaethygodd y tensiynau gwleidyddol yn y wlad, a holltodd y lluoedd arfog rhwng cefnogwyr Aquino a'r rhai a fu'n ffyddlon i Marcos. Yn sgil tridiau o brotestiadau yn ei erbyn gan ryw ddwy filiwn o Philipiniaid, pwysodd llywodraeth yr Unol Daleithiau arno i ildio'i rym i Aquino. Ffoes Marcos a'i deulu o'r Philipinau ar 25 Chwefror 1986, ac aeth yn alltud i Hawaii. Yno, cafodd efe a'i wraig eu cyhuddo o racetirio ac embeslu biliynau o ddoleri o economi'r Philipinau. Gwaethygodd ei iechyd, a chyn iddo gael ei roi ar brawf, bu farw Ferdinand Marcos yn Honolulu yn 72 oed.[1]
Cyfeiriadau
|
---|
Y Weriniaeth Gyntaf (1899–1901) | | |
---|
Y Gymanwlad (1935–1946) | |
---|
Yr Ail Weriniaeth (1943–1944) | |
---|
Y Drydedd Weriniaeth (1946–1973) | |
---|
Y cyfnod o reolaeth filwrol (1973–81) | |
---|
Y Bedwaredd Weriniaeth (1981–1986) | |
---|
Y Bumed Weriniaeth (ers 1986) | |
---|
|